Polisi Beichiogrwydd, Mamolaeth a Thadolaeth ac Absenoldeb Rhiant i Fyfyrwyr

Diben y Polisi

Ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ym mhopeth a wnawn. Wrth wneud hynny, ein nod yw sicrhau amgylchedd gwaith, dysgu, ymchwil ac addysgu nad yw’n gwahaniaethau nac yn trin pobl yn annheg.  Mae'r polisi hwn yn berthnasol i bob myfyriwr sy'n beichiogi neu sy’n dod yn rhiant yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol.

Deddfwriaeth Berthnasol

Cryfhawyd yr amddiffyniad cyfreithiol i fyfyrwyr yn ystod beichiogrwydd a mamolaeth yn sylweddol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban pan ddaeth Deddf Cydraddoldeb 2010 i rym. Yn y Ddeddf, mae beichiogrwydd a mamolaeth wedi’u rhestru fel un o'r naw nodwedd warchodedig. Mae’r Ddeddf hefyd yn gwahardd gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth.

Mae Adran 17 o'r Ddeddf yn ehangu'r amddiffyniad rhag gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth i fenywod y tu allan i'r gweithle. Wrth wneud hynny, mae'r Ddeddf yn sôn yn benodol am y sector Addysg Uwch. O dan y Ddeddf, gellir gwahaniaethu yn erbyn myfyrwyr oherwydd beichiogrwydd os:

  • Yw myfyrwraig yn cael ei thrin yn anffafriol am ei bod yn feichiog.
  • O fewn 26 wythnos i'r diwrnod o roi genedigaeth, mae myfyrwraig yn cael ei thrin yn anffafriol am ei bod wedi rhoi genedigaeth. Mae hyn yn berthnasol os yw'r fyfyrwraig yn rhoi genedigaeth; mae hyn hefyd yn berthnasol os yw’r fyfyrwraig wedi profi camesgoriad, marw-enedigaeth neu farwolaeth newydd-anedig, ar yr amod bod dros 24 wythnos o'r beichiogrwydd wedi mynd heibio.
  • Mae myfyrwraig yn cael ei thrin yn anffafriol am ei bod yn bwydo o'r fron a'r plentyn yn llai na 26 wythnos oed; os yw'r plentyn yn fwy na 26 wythnos oed, mae’n debygol bod y fyfyrwraig yn destun gwahaniaethu ar sail rhyw os ydyw’n cael ei thrin yn anffafriol am ei bod yn bwydo ar y fron.

Er mwyn hyrwyddo cyfle cyfartal o ran beichiogrwydd a mamolaeth, mae'n rhaid i Brifysgolion roi sylw dyladwy i'r angen i:

  • Ddileu neu leihau anfanteision a ddioddefir gan fyfyrwyr sy'n feichiog neu fyfyrwyr sydd wedi rhoi genedigaeth yn ystod y 26 wythnos diwethaf.
  • Cymryd camau i ddiwallu anghenion myfyrwyr sy'n feichiog neu fyfyrwyr sydd wedi rhoi genedigaeth yn ystod y 26 wythnos diwethaf sy'n wahanol i anghenion y rhai nad ydynt wedi gwneud hynny.
  • Annog myfyrwyr sy'n feichiog neu sydd wedi rhoi genedigaeth yn ystod y 26 wythnos diwethaf i ymroi i fywyd yn y Brifysgol.

O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae'n anghyfreithlon i brifysgolion wahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr a myfyrwyr mewn perthynas â derbyn myfyrwyr; darparu addysg; manteisio ar unrhyw fudd-dal, cyfleuster neu wasanaeth; ac mewn achosion disgyblu. Mae nodwedd warchodedig beichiogrwydd a mamolaeth wedi’i chynnwys yn Nyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) a geir yn y Ddeddf Cydraddoldeb. Mae’r Ddyletswydd hon yn gofyn i brifysgolion roi sylw dyledus i'r angen i:

  • Gael gwared â gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth, ac unrhyw ymddygiad arall a waherddir o dan y Ddeddf.
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai nad ydynt yn ei rhannu.
  • Meithrin perthynas dda rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai nad ydynt yn ei rhannu.

Polisi

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymwybodol o’i chyfrifoldebau tuag at bob myfyriwr, a bydd yn cefnogi myfyrwyr sy'n beichiogi / sy’n dod yn rhieni tra byddant yn astudio gyda ni. Mae'r Brifysgol yn credu na ddylai beichiogi neu ofalu am blentyn, ynddo'i hun, rwystro’r un myfyriwr rhag llwyddo yn ei astudiaethau. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddangos cymaint o hyblygrwydd â phosib i hwyluso llwyddiant myfyrwyr, gan sicrhau nad yw’r un myfyriwr o dan anfantais tra’n cynnal safonau academaidd uchel ar yr un pryd.

Bydd iechyd a diogelwch myfyrwraig feichiog o'r pwys mwyaf bob amser, a bydd staff yn delio â'r holl fyfyrwyr sy'n cael eu cynnwys yn y polisi hwn mewn modd sensitif, cyfrinachol a heb feirniadaeth. Dim ond aelodau o’r staff y mae angen rhoi gwybod iddynt am resymau dilys fydd yn cael gwybod am amgylchiadau myfyriwr, a dim ond gyda chaniatâd y myfyriwr y bydd hyn yn digwydd.

Cyfeiriwch at y Gweithdrefnau Beichiogrwydd, Mamolaeth a Thadolaeth ac Absenoldeb Rhiant i Fyfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth.

PDF

DOCX