Sgyrsiau Cymunedol: Nodi’r Weledigaeth a’r Genhadaeth i Aberystwyth deithio at fod yn Brifysgol ystyriol o Drawma a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (TrACE).

Myfyrwyr: Mai 17eg 

Staff: Mehefin 13eg/14eg

Cofrestrwch yma

Rydym yn gweithio ar y cyd â’r ACE Hub Cymru, sefydliad a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n gweithio gyda sefydliadau a phobl ledled Cymru fel ein bod yn datblygu i fod yn genedl sy’n ystyriol o drawma. Mae Aberystwyth yn falch o fod yn rhan o’r mudiad cenedlaethol hwn a datblygu i fod yn brifysgol sy’n ystyriol o Drawma a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (TrACE). Mae Aberystwyth yn lle y mae myfyrwyr a staff yn dewis byw a gweithio ynddo am lawer o resymau gan gynnwys eisiau teimlo'n ddiogel, gyda chefnogaeth, sy’n gysylltiedig ac yn gynwysedig. Gall Aberystwyth adeiladu i mewn i’r amgylchedd caredig, tosturiol, empathetig sydd gennym, fel ein bod, ym mhopeth yr ydym ac a ydym, yn cydnabod y gall unrhyw un brofi trawma yn eu bywydau ac efallai y bydd angen mwy o gymorth ar rai i oresgyn hyn. Bydd pobl yn dewis byw a gweithio yma, ac aros, os byddwn yn adeiladu cymuned sy’n helpu’r rhai sydd angen mwy o gymorth i oresgyn yr heriau yn eu bywydau.

 

Beth yw TrACE?

Mae gan bawb ran i’w chwarae wrth i Gymru ddatblygu i fod yn genedl sy’n ystyriol o ACE a thrawma. Mae ‘ystyriol o drawma’ yn ymwneud â deall bod gan lawer o bobl adfyd a thrawma sy’n effeithio arnynt mewn pob math o ffyrdd. Mae offeryn TrACE wedi ei datblygu gan ACE Hub Cymru mewn cyd-gynhyrchiad â phartneriaid. Mae’n adnodd i gefnogi pobl, sefydliadau, sectorau a systemau i ddatblygu eu dull eu hunain sy’n ystyriol o ACE a thrawma. Mae'n canolbwyntio ar adeiladu i mewn i arfer da sy'n bodoli, nid ar ben hyn, a nodi lle y gellir gwneud gwelliannau a newidiadau i bolisïau, arferion, diwylliant a'r amgylchedd. Mae’n rhan allweddol o  Fframwaith Ymarfer Ystyriol o drawma  Cymru sy’n nodi sut y gall pobl, cymunedau, sefydliadau, sectorau a systemau i gyd weithio gyda’i gilydd, greu cymdeithas lle bydd angen cymorth ychwanegol ar lawer llai o bobl oherwydd bydd pobl yn gallu cael cymorth yn gynt ac yn y ffordd gywir.

Sqyriau Cymunedol

Pan fyddwn yn ymgymryd ag unrhyw daith fawr, mae gennym le ble ddechreuwn, ac yn y rhan fwyaf o achosion syniad o ble rydym am fynd a sut i gyrraedd yno. Nid yw taith TrACE yn wahanol. Mae’n gyfres o gamau sy’n mynd â ni drwy ddeall ble’r ydym ar hyn o bryd, i ble’r ydym yn mynd a beth sydd angen inni ei wneud i gyrraedd y lle hwnnw. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio i ddeall ble rydym ni – yr hyn sydd gennym ar gael ar hyn o bryd sydd o'n cwmpas yn ein man cychwyn. Ond cyn inni gychwyn ymhellach, mae angen inni feddwl am y daith honno a’i datblygu gyda’n gilydd fel ein bod i gyd yn rhan ohoni.

Bydd Canolfan ACE Cymru yn ymuno â ni i hwyluso sgyrsiau am y cyfeirbwyntiau hwnnw – meddyliwch amdano fel dilyn llwybr; mae yna bethau i stopio a’u hystyried ar hyd y ffordd, pobl i’w cyfarfod, pethau i’w gwneud, ond oni bai eich bod yn deall pam eich bod yn cychwyn ar y llwybr, i ble rydych chi’n mynd a beth rydych chi’n disgwyl ei gael ar y pwynt gorffen, bosibl y byddwch yn colli eich ffordd. Rydym yn awyddus i ni fod yn glir ar ein llwybr ac mae angen eich help chi i wneud hynny.

Bydd y sgyrsiau’n digwydd dros ychydig oriau yn Nhŷ Trafod, gofod hamddenol ac anffurfiol sydd wedi’i gynllunio i feithrin sgyrsiau ar raddfa ddynol a’u cysylltu â’i gilydd i ddylanwadu ar newid, felly bydd y niferoedd yn cael eu cadw’n fach. Byddwn yn edrych ar ein llwybr ond yn ystyried rhai cwestiynau sylfaenol iawn ond allweddol:

Cyn i chi fynychu byddwch yn derbyn pecyn gyda rhai adnoddau er mwyn i chi ymgyfarwyddo â'r mathau o bethau y byddwn yn eu trafod a sut mae hynny'n cefnogi'r weledigaeth ar gyfer Prifysgol TrACE. Bydd y sesiynau yn anffurfiol, yn hamddenol ac yn gynhwysol. Nid oes ateb anghywir, ac mae croeso i bob cwestiwn. Byddwn yn rhannu syniadau, yn cefnogi ac yn herio ein cydweithwyr a nod y sgwrs yw gadael ag ymdeimlad o fod yn rhan o gyd-greu’r dyfodol; dyfodol lle mae trawma ac adfyd yn cael eu hatal, ac mae’n harweinyddiaeth yn dosturiol, mae Prifysgol Aberystwyth yn gymuned sy’n deall y gall unrhyw un brofi adfyd a thrawma yn eu bywydau ac hefyd yn deall sut i gael gafael ar y cymorth cywir yn seiliedig ar yr hyn sydd ei angen ar bobl, pan fydd ei angen arnynt.

I gadw un o'r lleoedd cyfyngedig, cliciwch yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost atom yn trace@aber.ac.uk