Togetherall
Mae Big White Wall wedi newid eu henw yn ddiweddar i Togetherall ond maent yn cynnig yr un gwasanaeth i Fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Os ydych chi wedi agor cyfrif gyda Big White Wall, mae'n dal yn bosib ichi fewngofnodi â'r un manylion.
P'un a ydych chi'n ei chael hi'n anodd cysgu, yn poeni am gyfeillgarwch, gorbryder, hwyliau isel ac iselder, gall Togetherall helpu.
Mae Togetherall yn wasanaeth cyfrinachol sydd ar gael am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae'n wasanaeth a reolir yn glinigol ac fe'i cefnogir gan gymuned o gyfoedion sy'n cynnig help a chyngor amrywiol.
- Cewch sgwrsio â chyfoedion yn ddienw
- Cewch gwblhau asesiadau ar gyfer amrywiaeth o broblemau megis gorbryder neu iselder
- Cewch wybodaeth a sgiliau drwy'r amrywiaeth o gyrsiau hunangymorth sydd ar gael:
- Cysgu'n Well
- Rhoi'r gorau i smygu
- Hyfforddiant pendantrwydd
- Rhoi'r Gorau i Oedi
- Cadw cydbwysedd yn feddyliol
- Rheoli Dicter
- Rheoli straen a phryder
- Rheoli iselder a hwyliau isel.