Beth yw'r costau byw?

Gellir dod o hyd i fanylion Costau Byw Nodweddiadol myfyriwr sy’n byw yn Aberystwyth yn: https://www.aber.ac.uk/cy/sscs/advice-info-money/managing-money/typical-costs/

Dylai ymgeiswyr rhyngwladol nodi y bydd yr UKVI angen tystiolaeth bod gennych neu y gallwch dalu eich ffioedd dysgu ynghyd â £9,207 ychwanegol i fodloni’r gofyniad cyllid (h.y. ar gyfer costau byw). Bydd angen arian ychwanegol os ydych yn bwriadu cael unrhyw ddibynyddion yn gysylltiedig â'ch Fisa Myfyriwr. Byddwch yn ymwybodol bod yn rhaid i’r dystiolaeth ariannol y gall yr UKVI ofyn ichi ei darparu mewn perthynas â’ch cais am fisa ddangos bod yr holl arian wedi bod ar gael ichi am o leiaf 28 diwrnod di-dor ar y diwrnod y byddwch yn ei gyflwyno i ni neu iddyn nhw. . Gweler https://www.aber.ac.uk/en/sscs/visa-support-advice/visas-immigration/student-visa-outside-uk/#how-do-i-prove-i-have-enough-money-for-my-visa-application am ragor o wybodaeth am y dystiolaeth ariannol sydd ei hangen.