Costau Byw Arferol yn Aber

Enghraifft gyffredinol a geir yma o’r math o gostau fydd gan fyfyriwr israddedig sy’n byw yn Aberystwyth. Cofiwch y bydd y costau hyn yn amrywio gan ddibynnu ar ffordd o fyw’r unigolyn. Mae’r costau wedi’u cyfrifo dros y flwyddyn academaidd sydd fel arfer tua 39 wythnos.

Cofiwch mai costau cymedrol iawn yw’r rhain. Mae costau byw yn Aberystwyth yn llawer is nag yn ambell ran o’r wlad. Mae costau teithio o fewn i’r dref yn isel a chostau byw cyffredinol yn llawer rhatach.

Neuaddau Preswyl y Brifysgol

Gwariant Cost yr wythnos Cost yn 

fisol

 Ystafelloed

 £138.93

 £626

 Bwyd a golchi dillad a phethau ymolchi  £47  £188

 Biliau  (Ynni, Rhwydwaith)

 Wedi'u cynnwys   Wedi'u cynnwys 

 Yswiriant Cynnwys

(Gweler manylion y polisi yma)

 Wedi'i gynnwys  Wedi'i gynnwys  
 Contractau Ffôn    £11.24
 Llyfrau, offer a deunydd ysgrifennu    £15
 Dillad    £30
 Cymdeithasu  £20  £80
 Sbort Aber dêl 125 Wedi'i gynnwys  Wedi'i gynnwys 
 Teithio Adre    £23
 Trwydded Deledu     £159
Pethau ychwanegol £13 £51

Y Sector Breifat

Ceir ystod eang o lety hunanarlwyo yn y sector breifat, ac yn y rhan fwyaf ohonynt fe fydd costau ynni yn cael eu hychwanegu at y rhent. Mae’r Swyddfa Lety yn cynghori na ddylid talu mwy na £80 yr wythnos (i gynnwys ynni) am ystafell astudio sengl gyffredin gan rannu cyfleusterau megis cegin ac ystafell ymolchi. Dylech ganiatáu 40 wythnos ar gyfer rhentu ar gyfartaledd, a fydd yn cynnwys gwyliau’r haf, sef 12 wythnos am 50% o’r rhent wythnosol ar gyfartaledd:

Gwariant Cost yr wythnos Cost yn fisol

Rhent

£122 £542

Bwyd a golchi dillad a phethau ymolchi

£47 £188

Biliau (Ynni, Rhwydwaith - Dibynnu a yw'r biliau wedi'u cynnwys yn eich cytundeb rhent)

£24 £95

Yswiriant Cynnwys

(Dibynnu ar werth eich eitemau)

  £2
Contractau Ffôn   £11.24
Llyfrau, offer a deunydd ysgrifennu   £15
Dillad   £13

Cymdeithasol

£20 £80

Sbort Aber dêl 125 (Myfyriwr nad yw’n aros yn llety’r Brifysgol)

  £135
Teithio Adre   £23
Trwydded Deledu   £159
Pethau Ychwanegol £13 £51