Aber Ar Agor

Nod rhaglen breswyl Aber Ar Agor yw helpu myfyrwyr Blwyddyn 12 i ymchwilio a pharatoi ar gyfer y brifysgol ac yn y pen draw at ehangu mynediad at addysg uwch.
Gan adeiladu ar lwyddiant blaenorol, mae'r rhaglen yn cael ei lansio fel 'Aber Ar Agor' yn 2023 ac yn cael ei drefnu a'i redeg gan Dîm Denu Myfyrwyr ac Ehangu Cyfranogiad Prifysgol Aberystwyth.
Mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Access All Aber bellach wedi dod i ben. Byddwn yn ystyried unrhyw geisiadau hwyr fesul achos. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, cysylltwch â ni ar aragor@aber.ac.uk.
Bydd Aber Ar Agor yn cynnal rhaglen breswyl ragorol 5 diwrnod ei hyd sy’n ceisio paratoi myfyrwyr yn well ar gyfer bywyd prifysgol. Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau academaidd allweddol, a bydd sesiynau mwy cymdeithasol ac addysgiadol yn cael eu cynnal i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn bywyd prifysgol ac i gefnogi eu ceisiadau UCAS.
Bydd tua 100 o leoedd i fyfyrwyr o bob rhan o Gymru. Rydym yn targedu myfyrwyr sy’n bodloni meini prawf ehangu mynediad, gan ganolbwyntio, ymhlith eraill, ar y rhai:
- O godau post sydd yn ardaloedd cwintelau isaf (1 a 2) MALlC (Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru),
- Sydd wedi bod mewn gofal (wedi treulio tri mis neu fwy mewn gofal ers pan oeddent yn 14 oed.)
- Y genhedlaeth gyntaf yn y teulu i fynd i'r Brifysgol.
- Sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teulu.
- Sy’n perthyn i un o’r categorïau mewnfudo canlynol; ffoadur, diogelwch dyngarol, ceisiwr lloches.
Mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Access All Aber bellach wedi dod i ben. Byddwn yn ystyried unrhyw geisiadau hwyr fesul achos. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, cysylltwch â ni ar aragor@aber.ac.uk.
Mae ceisiadau i Aber Ar Agor 2023 yn agored i fyfyrwyr sydd ym Mlwyddyn 12 ar hyn o bryd mewn ysgol neu goleg yng Nghymru.
- Bydd rhaglen 2023 yn rhedeg o ddydd Llun 10 Gorffennaf – dydd Gwener 14 Gorffennaf.
- Rydym yn darparu cludiant AM DDIM i Brifysgol Aberystwyth ac yn ôl.
- Rydym hefyd yn darparu llety a bwyd AM DDIM.
- Gall cyfranogwyr gymryd rhan mewn 3 Sesiwn Blasu Pynciau o ystod o wahanol bynciau. - (Gallwch weld ein rhestr o feysydd pwnc yma)
Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael a blaenoriaeth i geisiadau gan fyfyrwyr sy'n bodloni prif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.