Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Academaidd

£2,000 yn eich blwyddyn gyntaf.
Mae Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Academaidd yn gwobrwyo rhagoriaeth academaidd cyn dechrau yn y Brifysgol.
Sut mae gwneud cais?
Does dim rhaid i chi wneud cais – os ydych wedi nodi Aberystwyth fel dewis Cadarn drwy UCAS ac os cewch y canlyniadau isod byddwch yn derbyn y wobr yn awtomatig:
- Graddau AAA yn yr arholiadau Safon Uwch*
- DDD yn Niploma Estynedig Lefel 3 BTEC
- 34 pwynt yn y Fagloriaeth Ryngwladol
- Ystyrir cymwysterau eraill, cyhyd â'u bod yn ymddangos ar dablau tariff UCAS
*Mae’n bosibl y derbynnir gradd A yn Niploma Uwch Bagloriaeth Cymru, a fydd yn cynnwys y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch, yn lle un o’r graddau Safon Uwch.