Arholiadau Mynediad a Gwobrau Teilyngdod - Mynediad yn 2023

Gwerth hyd at £1,000 y flwyddyn ynghyd â chynnig diamod
Mae ymgeiswyr ar gyfer ein Harholiadau Mynediad yn sefyll dau bapur arholiad sy'n para awr a hanner yr un. Yn dibynnu ar y marciau a gewch yn y ddau bapur, gallech dderbyn hyd at £1,000 y flwyddyn a lle gwarantedig i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Noder:
Bydd yr Arholiadau Mynediad yn arholiadau a chyflwynir ar-lein. Gellir eu sefyll NAILL AI ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Sadwrn, 11 Chwefror 2023, NEU yn yr ysgol/coleg ar ddydd Iau, 9 Chwefror 2023. Oherwydd natur y prosesau dethol, sylwer nad yw ymgeiswyr Gwyddor Filfeddygol a Nyrsio yn gymwys i sefyll yr Arholiadau Mynediad.
Mae angen i ymgeiswyr sefyll dau bapur arholiad ac yn dibynnu ar y marciau a gyflawnir gennych yn y ddau bapur, mae 3 lefel o wobr:
1. Ysgoloriaethau’r Brifysgol – £1,000 y flwyddyn
Mae gennym 50 o Ysgoloriaethau’r Brifysgol i’w dyfarnu i’r ymgeiswyr sy’n cael y marciau cyfunol uchaf yn y ddau bapur arholiad. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn £1,000 ym mhob blwyddyn o’u cwrs. Gweler hefyd rhif 3 isod.
2. Gwobrau Teilyngdod – £1,000 yn y flwyddyn gyntaf
Rydym yn cynnig tua 100 o Wobrau Teilyngdod bob blwyddyn i fyfyrwyr sy’n gwneud yn dda yn yr Arholiadau Mynediad ond yn methu o drwch blewyn â chael Ysgoloriaeth. Bydd deiliaid Gwobrau Teilyngdod yn derbyn £1,000 yn ystod eu blwyddyn gyntaf. Gweler hefyd rhif 3 isod.
3. Cynigion Diamod
Gall perfformiad cryf yn yr Arholiadau Mynediad arwain at y Brifysgol yn cadarnhau lleoedd ymgeiswyr heb fwy o amodau gan arwain at gynnig diamod trwy UCAS. Mae’n bosib bydd ymgeiswyr sy’n colli allan ar wobr o drwch blewyn yn derbyn cynnig diamod ar sail perfformiad cryf yn yr Arholiadau.