Arddangosfeydd Stuart Rendel

£1,000 pob blwyddyn am weddill eu cwrs israddedig

Mae arddangosfeydd Stuart Rendel yn darparu cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr sy’n dechrau eu blwyddyn gyntaf o astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Fe’i dyfernir o Gronfa Ganolraddol a Thechnegol Sir Drefaldwyn a reolir gan Y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru.

I fod yn gymwys, rhaid bod yr ymgeisydd yn:

  • byw yn Sir Drefaldwyn;
  • bod o dan 25 oed;
  • a’i fod wedi mynychu Ysgol Uwchradd yn Sir Drefaldwyn am nid llai na dwy flynedd.

Gwerth yr arddangosfeydd yw £1,000 y flwyddyn am gyfnod y cwrs israddedig. 

 

Sut I Wneud Cais

Os ydych yn meddwl eich bod yn gymwys, cwblhewch ffurflen gais ar wefan Sefyliad Cymunedol Cymru.

Terfyn Amser

Rhaid cyflwyno ffurflenni cais erbyn y dyddiad a nodir ar wefan Sefydliad Cymunedol Cymru.