Grant CCF (Cangen Caerdydd)
Hyd at £1,500 am flwyddyn
Mae Cymdeithas y Cyn-Fyfyrwyr (Cangen Caerdydd) yn cynnig grant i helpu gyda’r costau sy’n gysylltiedig â dechrau yn y Brifysgol.
Gwahoddir ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n mynychu ysgol neu goleg yn ardal De-ddwyrain Cymru (codau post CF ac NP).
Bydd llythyrau gyda rhagor o wybodaeth yn cael eu hanfon at ymgeiswyr gymwys erbyn canol mis Mawrth.