Prifysgol Aberystwyth

Chwilio am Gwrs

Astudio gyda Ni

Mae ymchwil arloesol y Brifysgol yn bwydo’n syth i’n gwaith dysgu, gan gyfoethogi ein cyrsiau a chreu profiad dysgu heb ei ail, gan eich helpu i feithrin sgiliau a datrys problemau go iawn.

Astudiaethau Israddedig:

Ymchwil yn Aberystwyth

Mae ymchwil Aberystwyth yn helpu i newid y byd er gwell, drwy wneud gwahaniaeth i fywydau go iawn. Rydym yn ymdrin â rhai o heriau mwyaf taer cymdeithas, gan gynnwys newid hinsawdd, iechyd byd-eang, newidiadau cymdeithasol, ac archwilio’r gofod.

Darganfyddwch Aberystwyth

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i lleoli ar arfordir y gorllewin, rhwng Mynyddoedd y Cambria a Bae Ceredigion. Mae’r gymuned yn amrywiol a chroesawgar o fewn tref farchnad hanesyddol ar lan y môr sydd â diwylliant Cymreig cosmopolitan. Gyda chymaint i’w gynnig, bydd gennych ddigonedd o ddewis.

Newyddion

Gweld y newyddion yn llawn

Hetiau duon, crochanau a ysgubau: tarddiad hanesyddol eiconograffeg gwrachod

Mewn erthygl yn The Conversation, mae Mari Ellis Dunning yn trafod sut roedd menywod yng Nghymru'r cyfnod modern cynnar fel arfer yn gwisgo sgertiau hir, siolau gwlân mawr, a hetiau du tal. A allent fod wedi ysbrydoli stereoteipiau am y wrach?

Darn allweddol o Grwydryn ExoMars yn cael ei anfon o Aberystwyth

Mae'r ymdrechion i chwilio am fywyd ar y blaned Mawrth yn cymryd cam mawr ymlaen heddiw, wrth i offeryn allweddol ar gyfer taith ofod bwysig ddechrau ei daith o'r Brifysgol i’r Eidal i gael ei brofi.

Uwchraddiad gwerth £750,000 gan y Brifysgol i gyfleusterau addysgu Cyfrifiadureg

Mae'r Brifysgol wedi agor mannau addysgu sydd newydd eu hailwampio yn yr Adran Gyfrifiadureg yn swyddogol, gan nodi buddsoddiad sylweddol yn nyfodol addysg ddigidol.

Astudio effaith hirdymor fepio ar iechyd yr ysgyfaint

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn rhan o brosiect gwerth £1.55m i ddarganfod risgiau a buddion hirdymor fepio ar iechyd ysgyfaint ysmygwyr.