Dr Gareth Evans MA (Cymru), PhD, (Aberystwyth), TUAAU, CAAU

Dr Gareth Evans

Darlithydd mewn Theatr a Pherfformio

Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

Manylion Cyswllt

Proffil

Mae Gareth wedi dysgu yn yr Adran Astudiaethau, Theatr, Ffilm a Theledu ers mis Medi 2007, gan ddod yn aelod llawn-amser yn 2012. Yn yr un flwyddyn cwblhaodd ei ddoethuriaeth a oedd yn canolbwyntio ar gysyniad Hans-Thies Lehmann (1999, cyf. 2006) o'r theatr ôl-ddramataidd, a'i berthynas â datblygiad y theatr yn y Gymraeg, gan ganolbwyntio'n benodol ar waith cwmni Brith Gof a'u cydweithwyr, yn ogystal â thestunau perfformio'r llenor Aled Jones Williams.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu'n cynnal ei ymarfer perfformio fel aelod o'r grŵp random people.

Ar hyn o bryd, mae'n cwblhau monograff ar waith Aled Jones Williams, i'w gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru.

Ers 2018, mae wedi bod yn adolygydd theatr ar gyfer The Guardian.

Dysgu

Module Coordinator
Coordinator
Lecturer
Tutor
Grader
Attendance Dept Admin
Blackboard Dept Admin

Ymchwil

Theatr ôl-ddramataidd; perfformio cyfoes; theatr Gymraeg a pherfformio yng Nghymru; theatr gyfoes Ewropeaidd; gweithiau'r llenor Aled Jones Williams; theatr gerddorol ac opera cyfoes.

Cyfrifoldebau

Cydlynydd BA Drama and Theatre

Oriau Swydda (Amseroedd Cyswllt Myfyrwyr)

  • Dydd Mercher 10:00-12:00

Cyhoeddiadau

Evans, G 2017, Ymlaen Mae Canaan: Dyfodoldeb yn Hanesyddiaeth y Theatr Gymraeg. in A Jones (ed.), Perfformio'r Genedl: Ar Drywydd Hywel Teifi Edwards. Gwasg Prifysgol Cymru | University of Wales Press, pp. 1-30.
Evans, G 2013, ''Theatre and Performance in Small Nations', Steve Blandford (gol.)', Cyfrwng, no. 10, pp. 114-115.
Evans, G 2013, Rhagair. in Pridd. Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst.
Evans, G 2013, Theatr Ôl-Ddramataidd. in A Jones & LL (eds), Ysgrifau ar Theatr a Pherfformio. Gwasg Prifysgol Cymru | University of Wales Press, pp. 119-141.
Ritchie, L & Evans, G, On Running, 2007, Performance, Chapter .
Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil