Aber yn Adolygu

Sesiynau gan ein Hadran Cymraeg sy'n canolbwyntio ar gerdd a llyfrau sydd ar y fanyleb Lefel A.

Bu'r Adran Cymraeg yn cyfoethogi’u hastudiaethau cyfredol wrth roi blas ar y math o brofiad academaidd a gynigir gan y Brifysgol. 

Gweminarau ar y Gweill

Cân y Milwr gan Karen Owen

Medi 16 – 16:00-17:00 - COFRESTRWCH YMA

Pam ‘Cân’? Pwy yw’r ‘Milwr’? Beth yw’r ‘awyr arall’ yng ngherdd Karen Owen? A sut y mae penillion sy’n ymddangos ar un wedd mor syml ac uniongyrchol yn dweud cymaint am ein cymdeithas ni heddiw a’r cyfundrefnau sy’n ein rheoli?

Erbyn diwedd y sesiwn, byddwn wedi ymweld â Phenygroes, Dyffryn Nantlle, ac Affganistàn, a thaflu cip yn ôl at gerddi Iwan Llwyd, Waldo Williams a Gwenallt hefyd.

Fel gyda’r sesiynau eraill cofia y bydd cyfle i ti holi cwestiynau, cytuno neu anghytuno, a chynnig dy syniadau di hun – ond heb reidrwydd! Y peth pwysicaf yw ein bod yn cael dod at ein gilydd a rhoi amser i drafod barddoniaeth.

Beaufort, Blaenau Gwent, Mewn Gwyrdd gan Ifor ap Glyn

Hydref 14 – 16:00-17:00 - COFRESTRWCH YMA

Yn ystod y sesiwn hon, cawn ystyried sut y mae bardd a aned yn Llundain yn portreadu sefyllfa’r Gymraeg ac yn cynnig darlun gobeithiol am ei dyfodol.  Byddwn yn teithio ar drên tanddaearol ac eto’n gweld yr enfys !

Yng nghwmni Ifor ap Glyn cawn fentro i fynwent capel Carmel, ym Mlaenau Gwent, ond nid er mwyn teimlo’n hiraethus a thrist. Dyma gerdd i godi calon. Pam ? a Sut ?

Fel gyda’r sesiynau eraill cofia y bydd cyfle i ti holi cwestiynau, cytuno neu anghytuno, a chynnig dy syniadau di hun – ond heb reidrwydd! Y peth pwysicaf yw ein bod yn cael dod at ein gilydd a rhoi amser i drafod barddoniaeth.

Darllen ‘Un Nos Ola Leuad’

Medi 30 – 16:00-17:00 - COFRESTRWCH YMA

Bydd Dr Bleddyn Owen Huws yn rhoi cyflwyniad cyffredinol i nofel Caradog Prichard gan roi sylw i’w chynllun a’i hadeiladwaith. Gan fod amryw o bobl yn gweld elfennau lled hunangofiannol ynddi, rhaid ystyried beth yw’r gwahaniaeth rhwng ffaith a ffuglen.

Y mae’r naill yn seiliedig ar brofiad a’r llall yn seiliedig ar ddychymyg. Bydd y sesiwn yn gyfle i ystyried rhai o brif themâu’r nofel a thrafod yr hyn sy’n gwneud Un Nos Ola Leuad yn un o nofelau mwyaf nodedig yr iaith Gymraeg.

Gweminarau Blaenorol

Aneirin gan Iwan Llwyd

Un o ddelweddau cyson gwaith Iwan Llwyd yw delwedd y daith ac yn ystod y sesiwn hon byddwn yn teithio mewn amser a phellter. Mae teitl y gerdd dan sylw, Aneirin, yn mynd â ni yn ôl i’r 6ed Ganrif ac i fardd a gofnododd frwydr yng Nghatraeth yn yr Hen Ogledd, sef darn o dir a elwir heddiw yn Catterick ac sydd yn Swydd Efrog, Lloegr.

Erbyn diwedd y sesiwn byddwn ni felly wedi dysgu rhywbeth am ddau fardd ac wedi ystried o leiaf ddwy thema fawr yng ngwaith Iwan Llwyd.

Cofia y bydd cyfle i ti holi cwestiynau, cytuno neu anghytuno, a chynnig dy syniadau di hun – ond heb reidrwydd! Y peth pwysicaf yw ein bod yn cael dod at ein gilydd a rhoi amser i drafod barddoniaeth.

 

Trafferth mewn Tafarn gan Dafydd ap Gwilym

Dafydd ap Gwilym yw un o feirdd mwyaf cyffrous Cymru. Er bod canrifoedd lawer wedi mynd heibio ers iddo deithio’r wlad yn canu ei gerddi, mae ei eiriau’n dal i’n swyno heddiw. Ef yw ein bardd enwocaf, a’i gerdd enwocaf, mae’n siŵr, yw ‘Trafferth mewn Tafarn’.

Yn y gerdd honno, mae Dafydd yn adrodd stori ysgafn amdano’n ceisio caru â merch un noson, ac yn cael trafferthion lu wrth ymbalfalu tuag ati yn y tywyllwch, gan ddeffro pawb, yn cynnwys tri Sais blin!

Ond a oeddet ti’n gwybod nad mewn ‘tafarn’ oedd Dafydd, mewn gwirionedd, a bod ergyd lawer mwy difrifol i’r stori?

Bydd y sesiwn hon yn dod â geiriau Dafydd yn fyw ac yn galluogi inni glywed ei lais eto, agos saith canrif ar ôl canu ei gerdd enwocaf am y tro cyntaf.

Y Meirwon gan Gwenallt

Disgrifiwyd Gwenallt fel ‘Y bardd bach uwch beirdd y byd’ gan Thomas Parry gan bwysleisio pa mor fawr oedd Gwenallt fel bardd, er ei fod yn fach o gorff.

Yn ystod y sesiwn hon cawn fynd o dan groen y gerdd Meirwon ac ystyried beth oedd y profiadau dirdynnol a ysgogodd Gwenallt i lunio cerdd mor gignoeth.

Mae nifer o linellau’r gerdd yn tasgu’n chwerw, ac erbyn diwedd y sesiwn, byddwn wedi cael cyfle i holi beth tybed yw eu harwyddocad i ni heddiw?