Gwneud y Gorau o...

Cyfres weminarau gan Brifysgol Aberystwyth sy'n ymdrin â phob pwnc allweddol wrth astudio yn y Chweched Dosbarth.

Mae'r gyfres weminar hon yn cyflwyno unrhyw bwnc penodol sy'n ymwneud â bywyd yn y chweched dosbarth a thu hwnt. Mae pob gweminar yn edrych ar bwnc gwahanol y bydd angen i chi ymchwilio iddo drwy gydol y cyfnod hwn. Bydd gwylio'r gweminarau hyn yn eich galluogi i wneud y gorau o'r Chweched Dosbarth, mynychu ffeiriau Addysg Uwch, Diwrnodau Agored a llawer mwy.

Gweminarau Blaenorol

Datganiad Personol

Yn y weminar yma, fydd ddim yn para mwy na 30 munud, byddwn yn trafod 6 maes allweddol y bydd angen i chi eu hystyried ynghyd â’r awgrymiadau a’r technegau y gallwch eu defnyddio er mwyn Gwneud y Gorau o … Baratoi ar gyfer eich Datganiad Personol.

Rhennir y sesiwn yn 6 rhan byr, fydd yn edrych ar y pynciau canlynol –

  • Gwneud y gwaith caib a rhaw ar gyfer eich Datganiad Personol.
  • Ochr dechnegol eich Datganiad Personol.
  • Gwaith tîm yw e!
  • Sut i strwythuro eich Datganiad Personol.
  • Mae’n bwysig eich bod yn cyflwyno’n dda!
  • Gorffen y Datganiad Personol mewn ffordd effeithiol.

Diwrnodau Agored

Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar 6 cwestiwn allweddol ynghylch mynychu Diwrnod Agored ac yn dangos sut i wneud y gorau o Ddiwrnodau Agored.

Bydd y sesiwn hon yn cynnwys sesiwn holi ac ateb gyda myfyriwr a raddiodd yn ddiweddar i roi cyd-destun i chi ar yr hyn a gafwyd o fynychu Diwrnod Agored.

Byddwn hefyd yn siarad ag aelod o staff Academaidd i roi gwybod i chi beth fydd adrannau Academaidd yn ei ddangos i chi yn ystod Diwrnod Agored.

  1. Pam mae Diwrnodau Agored yn bwysig?
  2. Beth sy’n digwydd yn ystod Diwrnod Agored?
  3. A allaf fynd i Ddiwrnod Agored Rhithwir yn lle?
  4. C&A Myfyriwr: Beth wnaethoch chi ddysgu wrth fynychu Diwrnod Agored?
  5. C&A Staff Academaidd: Beth mae adrannau academaidd yn ei ddangos yn ystod Diwrnodau Agored?
  6. Sut ydych chi’n archebu lle ar gyfer Diwrnod Agored?

Ffeiriau Addysg Uwch

Bydd y sesiwn hon yn ateb 6 cwestiwn allweddol, a bydd yr atebion yn eich galluogi i wneud y gorau o Ffeiriau Addysg Uwch.

Y cwestiynau byddwn yn gofyn yw –

  1. Beth yw Ffair Addysg Uwch?
  2. Beth fyddai’n dysgu wrth fynd i Ffair Addysg Uwch?
  3. A oes Ffeiriau Rhithwir ar gael?
  4. C&A Myfyriwr: Beth wnaethoch chi ddysgu o fynd i Ffair Addysg Uwch?
  5. Ble mae’r Ffeiriau Addysg Uwch yn cael eu cynnal?
  6. Sut alla’ i fynd i un?

Cyfweliadau Prifysgol

Yn y weminar yma, fydd ddim yn para mwy na 30 munud, byddwn yn trafod 6 maes allweddol y bydd angen i chi eu hystyried ynghyd â’r awgrymiadau a’r technegau y gallwch eu defnyddio er mwyn Gwneud y Gorau o … Gyfweliadau Prifysgol.

Rhennir y sesiwn yn 6 rhan byr, fydd yn edrych ar y pynciau canlynol –

  • Defnyddio eich DP fel sail i’ch cyfweliad
  • Sut i baratoi ar gyfer eich cyfweliad.
  • Pa fath o gwestiynau i’w disgwyl
  • Iaith y corff
  • Oes rhaid i mi ofyn cwestiwn?
  • Beth i’w wneud ar ôl y cyfweliad