Aberfflics
Mae Aberfflics yn gasgliad o fideos addysg uwch sy'n ffocysu ar amrywiaeth o agweddau cyfoes megis Newid Hinsawdd, a hefyd yn cynnig gwybodiaeth am ein cyrsiau a chyngor ar sut i fynd ati i ymgeisio i addysg uwch.
Bob mis byddwn yn arddangos cyfres newydd, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dod yn ôl yn rheolaidd i ddarganfod ein fideos newydd.
Cofrestrwch yma i gael mynediad i Aberfflics
Beth sydd ar gael ar Aberfflics?
Rhestr o'r gwahanol gyfresi ar hyn o bryd:
- Heriau 2030
Mae 'Heriau 2030', yn edrych ar broblemau'r dyfodol o safbwynt amrywiaeth o bynciau. - Aber yn Adolygu
Sesiynau gan yr adran Gymraeg yn canolbwyntio ar gerddi a llyfrau sydd ar y fanyleb Lefel A. - Gwneud y Gorau o...
Byddwn yn cyflwyno pynciau penodol sy’n ymwneud â bywyd yn y chweched dosbarth a thu hwnt. - Aberystwyth a Newid Hinsawdd
Rydym wedi datblygu ystod eang o raddau sy'n gysylltiedig â Newid Hinsawdd ar draws meysydd pwnc amrywiol, sy'n rhychwantu'r Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau. - 30 mewn 30 - Cwestiynau aml am addysg uwch
Cyfres o atebion syml i gwestiynau cyffredin am Addysg Uwch - dod yn fuan -
Cyn, Yn Ystod a Thu HwntMae'r gyfres Cyn, Yn Ystod a Thu Hwnt yn canolbwyntio ar bynciau penodol sy'n ffocysu ar y penderfyniadau sydd angen gwneud cyn dewis cwrs gradd, tra'n astudio a llwyddiant cyn fyfyriwr wedi astudio'r pwnc.
- Nyrsio
Yn y gyfres yma mae'r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd yn cyflwyno y prosesau ynghlwm ag ymgeisio ar gyfer Nyrsio maes Oedolion a Iechyd Meddwl. - Sesiynau Blasu
Mae'r 'Sesiynau Blasu' hyn wedi eu cynllunio i gyfoethogi eich astudiaethau cyfredol tra'n arddangos y cyfoeth o bosibiliadau academaidd sydd ar gael yn y brifysgol. - Llais y Myfyrwyr
Cyfres o weminarau sy'n rhoi golwg i chi ar fywyd myfyriwr yn y Brifysgol. - Eich canllaw i Addysg Uwch: Gwneud y cam o Ymgeisio i Lwyddo
Nod y gyfres fideo hon yw eich cefnogi bob cam o'r ffordd o ymgeisio i gyrraedd Prifysgol. -
Yr Hyn Mae Tiwtoriaid Derbyn Yn Edrych AmdanoMae’r sesiynau hyn yn canolbwyntio ar gyfadran benodol ac yn cynnwys sgwrs fyw efo swyddog denu myfyrwyr, tiwtor derbyn a myfyriwr presennol i'ch cefnogi i lunio eich cais prifysgol.
- Cyflwyniad i astudio Gwyddoniaeth Filfeddygol
Bu’r Athro Darrell Abernethy, Pennaeth a Chadeirydd Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth, yn cyflwyno gwaith llawfeddyg milfeddygol i fyfyrwyr ac yn cynnig cyngor ar sut i wneud cais i astudio. - Gweminarau Gwleidyddiaeth
Bu'r Brifysgol yn trafod materion cyfoes mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyda'r gwestai Elin Jones a oedd yn Lywydd Senedd Cymru, a chyn prif weinidog Cymru, Carwyn Jones
-
Bagloriaeth Cymru - Y Prosiect UnigolCynhaliodd Prifysgol Aberystwyth, ynghyd â Senedd Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sesiynau i gefnogi myfyrwyr sy'n cwblhau'r prosiect unigol o fewn y Fagloriaeth.