Dysgu ac Addysgu

Myfyrwyr mewn darlith

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo ei bod yn rhoi pwyslais ar ei myfyrwyr ond hefyd yn hynod weithgar o ran ymchwil.

Ein nod yw creu amgylchedd lle cewch ddysgu a datblygu; lle cewch eich herio i feddwl yn feirniadol ac yn annibynnol; a lle cewch gyfle i fod yn arloesol ac yn greadigol mewn cymuned academaidd gefnogol. Mae ennill gwobr Prifysgol y Flwyddyn yn y DU am Ansawdd y Dysgu am yr ail flwyddyn (The Times & Sunday Times, Canllaw Prifysgolion Da 2018 a 2019) a gwobr aur mewn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu 2018 yn tystio i’n safonau uchel a’r staff sy’n mynd yr ail filltir i wneud yn siŵr eich bod yn cael yr addysg orau un.