Cymorth Preswyl

Llety Penbryn

Mae rhwydwaith cymorth o Diwtoriaid Preswyl ym mhob Neuadd Breswyl. Wrth ichi gyrraedd, mi fydd eich Tiwtor Preswyl yn cysylltu â chi i’ch croesawu i’ch cymuned breswyl. Eu gwaith yw eich helpu i ymgartrefu a gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd sydd ar gael y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Byddant hefyd ar gael i’ch helpu os bydd rhwystrau i’ch llwyddiant a’ch hapusrwydd. Os ydych yn newydd i’r Neuaddau Preswyl, neu’n dychwelyd iddynt, bydd eich Tiwtor Preswyl yn fodd ichi wneud y gorau o’r holl ystod o wasanaethau cymorth sydd ar gael o fewn y Brifysgol.

Mae timau ym mhob neuadd breswyl yn darparu gwasanaeth ar alwad, y tu allan i oriau arferol, gyda’r nos ac ar y penwythnos. Anfonir manylion y rota ar alwad, drwy e-bost, at y myfyrwyr bob wythnos. Ceir hefyd feddygfeydd wythnosol ac mae gan bob tiwtor ardal benodol – grŵp o fflatiau/tai – y maent yn gyfrifol amdanynt.

Ar ddechrau pob blwyddyn, bydd Tiwtoriaid Preswyl yn trefnu gweithgareddau croeso i’ch galluogi i gwrdd â’ch cymdogion a dod i’w hadnabod yn well. Maent hefyd yn cydweithio’n agos ag Undeb y Myfyrwyr drwy sefydlu Pwyllgorau Preswyl lle cewch gyfle i drefnu digwyddiadau cymdeithasol a rhoi barn ar sut y mae’r neuadd yn gweithio.

Tiwtoriaid Preswyl

  • Cwrt Mawr, Rosser a Trefloyne
  • Pantycelyn
  • Penbryn
  • Pentre Jane Morgan
  • Llety Glan Môr