Ymgysylltiad Staff a Myfyrwyr
Rydym yn deall bod cynaliadwyedd a stiwardiaeth yn peri pryder mawr i lawer o'n myfyrwyr a'n staff, a dyna pam ein bod nid yn unig yn annog newid ymddygiad trwy fentrau a gynhelir gan y brifysgol, ond hefyd yn gwerthfawrogi'r effaith y mae staff a myfyrwyr yn ei chael ar ymwybyddiaeth amgylcheddol a chynaliadwyedd. Gweler rhai enghreifftiau isod:
Cynllun Ymgysylltu Staff a Myfyrwyr
See below our staff and student engagement plan
Mis |
Digwyddiad |
Gweithredu |
Cynulleidfa |
Staff/Tîm sy'n Gyfrifol |
Medi |
Sgwrs Wythnos Groesawu |
Llunio a rhoi cyflwyniad gynefino i fyfyrwyr yn ystod yr wythnos groesawu, i’w gwneud yn ymwybodol o nodau a pholisïau cynaliadwyedd Prifysgol Aberystwyth. |
Myfyrwyr |
Neil Glasser, nfg@aber.ac.uk |
Tachwedd |
Cyfarfod y Fforwm Cynaliadwyedd |
Cwrdd â chynrychiolwyr/hyrwyddwyr cynaliadwyedd o bob rhan o'r brifysgol, trafod y camau maent yn eu cymryd i fod yn fwy cynaliadwy, ac a oes angen adnoddau arnynt i’w cyflawni |
Staff |
Dewi Day, ded17@aber.ac.uk |
Tachwedd |
Diwrnod Gwirfoddoli i Blannu Coed |
Plannu 400 o lasbrennau o rywogaethau o goed Cymreig brodorol o amgylch Fferm Penglais |
Staff a myfyrwyr |
Dewi Day, ded17@aber.ac.uk |
Rhagfyr |
Diffodd Dros y Nadolig |
Annog yr holl staff i ddiffodd dyfeisiau electronig dros wyliau'r Nadolig |
Staff |
Dewi Day, ded17@aber.ac.uk Tîm Cyfathrebu, communications@aber.ac.uk |
Chwefror |
Cyfarfod y Fforwm Cynaliadwyedd |
Cwrdd â chynrychiolwyr/hyrwyddwyr cynaliadwyedd o bob rhan o'r brifysgol, trafod y camau maent yn eu cymryd i fod yn fwy cynaliadwy, ac a oes angen adnoddau arnynt i’w cyflawni |
Staff |
Dewi Day, ded17@aber.ac.uk |
Chwefror |
Cyflwyniad ADGD – Sero Net |
Rhoi cyflwyniad i ADGD ar amcanion sero-net y brifysgol a'r sefyllfa bresennol |
Staff |
Dewi Day, ded17@aber.ac.uk |
Mawrth |
Glanhad Miliwn o Filltiroedd |
Cymryd rhan yn nigwyddiad glanhad miliwn o filltiroedd Surffers Against Sewage o amgylch Coed Penglais |
Staff a myfyrwyr |
Dewi Day, ded17@aber.ac.uk |
Mawrth |
Mis cynaliadwyedd y Gwasanaethau Croeso |
Cynnig cwpanau cadw am ddim i gymell pobl i ddefnyddio llai o eitemau untro a chynnig gostyngiad gyda'r cwpan |
Staff a myfyrwyr |
Gwasanaethau Croeso, hospitality@aber.ac.uk |
Mawrth |
Mis cynaliadwyedd y Gwasanaethau Croeso |
Wythnos prynu moesegol - esbonio'r system goleuadau traffig ar gyfer olew palmwydd |
Staff a myfyrwyr |
Gwasanaethau Croeso, hospitality@aber.ac.uk |
Mawrth |
Mis cynaliadwyedd y Gwasanaethau Croeso |
Wythnos Di-blastig - labelu pob plastig untro i dynnu sylw at y broblem. |
Staff a myfyrwyr |
Gwasanaethau Croeso, hospitality@aber.ac.uk |
Ebrill |
Rhyddhau holiadur am deithio cynaliadwy |
Rhyddhau holiadur am deithio cynaliadwy i fonitro sut mae staff yn cymudo i’r gwaith ac i gael adborth gan staff ynghylch teithio cynaliadwy. |
Staff |
Dewi Day, ded17@aber.ac.uk Tîm Cyfathrebu, communications@aber.ac.uk
|
Mai |
Mai Di Dor |
Cymryd rhan ym Mai Di Dor, anfon negeseuon i egluro pam ei bod yn bwysig cefnogi Mai Di Dor ar y campws, creu arwyddion a’u gosod yn yr ardaloedd o flodau gwyllt |
Staff a myfyrwyr |
Tîm Tiroedd, dnh@aber.ac.uk, Dewi Day, ded17@aber.ac.uk |
Mehefin |
Ymgyrch ‘Rhoi yn hytrach na thaflu’ |
Darparu pwyntiau casglu i fyfyrwyr sy'n symud allan i roi eitemau nad ydynt eu hangen/heisiau mwyach, fel y gellir eu hailddefnyddio/hailgartrefu. |
Myfyrwyr |
Tîm gwastraff, tîm preswylfeydd, facilities@aber.ac.uk |
Mehefin |
Cyfarfod y Fforwm Cynaliadwyedd |
Cwrdd â chynrychiolwyr/hyrwyddwyr cynaliadwyedd o bob rhan o'r brifysgol, trafod y camau maent yn eu cymryd i fod yn fwy cynaliadwy, ac a oes angen adnoddau arnynt i’w cyflawni |
Staff |
Dewi Day, ded17@aber.ac.uk |