Polisïau'r Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Dewch o hyd i'n polisïau sy'n ymwneud â chynaliadwyedd, yr amgylchedd a theithio yn y cwymplenni isod.

 

Polisi Cynaliadwyedd

Mae'r Tîm Cynaliadwyedd, sydd wedi'i leoli yn yr Adran Ystadau, wedi ymrwymo i ymgorffori meddwl cynaliadwy ehangach yn ein holl brosesau gwneud penderfyniadau.

Darllenwch ein Polisi Cynaliadwyedd (2023) am fwy o wybodaeth

Strategaeth tuag at Garbon Sero Net 2030

Mae ein strategaeth cynaliadwyedd amgylcheddol wedi'i chynnwys yn ein Strategaeth Sero Net erbyn 2030, sy'n gosod targedau CAMPUS i ddatgarboneiddio ein prifysgol.

Dewch o hyd i'n strategaeth yma: Strategaeth tuag at Garbon Sero Net 2030.

Polisi Teithio

Yn Aberystwyth, rydym yn ymgorffori’r hierarchaeth deithio i bob taith fusnes a chymudo i leihau’r amser teithio ac osgoi teithio diangen. 

Ar hyn o bryd rydym wrthi'n diweddaru ein polisi teithio i ymgorffori cynaliadwyedd hyd yn oed ymhellach - darllenwch ein Polisi Teithio presennol i gael mwy o wybodaeth. 

Mae gennym fwy o wybodaeth hefyd am yr hyn y mae'r brifysgol yn ei ddarparu yn ogystal â theithio o amgylch Aberystwyth ar ein tudalennau Teithio Cynaliadwy

Polisïau Bioamrywiaeth a Chadwraeth

Gyda gwreiddiau’r Brifysgol wedi’u plannu'n gadarn mewn amaethyddiaeth, mae'n hanfodol i ni fod bioamrywiaeth a chadwraeth ar flaen y gad o ran yr hyn a wnawn. 

Gellir dod o hyd i'n hadroddiad cynnydd bioamrywiaeth yma: Adroddiad y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau 2022

Darllenwch ein cynllun bioamrywiaeth yma: Cynllun Bioamrywiaeth Prifysgol Aberystwyth (Gorffennaf 2017)

Darllenwch fwy am yr hyn a wnawn i wella a chynnal bioamrywiaeth yma: Bioamrywiaeth a Chadwraeth