Rheoli Dŵr

Gyda'n hymchwil yn bennaf yn ymwneud ag amaethyddiaeth a botaneg - y ddau yn arferion dŵr dwys - mae cadwraeth dŵr a defnyddio dŵr yn effeithiol ac yn effeithlon yn rhywbeth yr ydym yn ymroddedig iddo ac yn ceisio ei wella'n barhaus. 

Gan hynny, mae ein strategaeth Sero Net erbyn 2030 yn amlinellu pwysigrwydd dŵr ffres fel adnodd cyfyngedig, rydym wedi datblygu strategaeth SMART i leihau ein defnydd o ddŵr o 25% erbyn 2030. 

Dŵr Adnewyddadwy yn Aberystwyth

Mae’r brifysgol eisoes wedi buddsoddi mewn defnyddio cyflenwadau dŵr adnewyddadwy.  Er enghraifft, mae toiledau yn ein hadeilad IBERS ym Mhenglais yn defnyddio dŵr glaw wedi’i gynaeafu i waredu gwastraff, ac mae fferm Trawscoed sy’n eiddo i’r brifysgol wedi buddsoddi mewn technoleg a systemau storio i gynaeafu dŵr glaw er mwyn dod yn fwy hunangynhaliol gan arbed dŵr.

Cynllun Gweithredu

Mae Aberystwyth yn bwriadu cynyddu effeithlonrwydd dŵr, lleihau’r defnydd ohono a chynhyrchu ei gyflenwad ei hun o ddŵr adnewyddadwy.  Byddwn yn gwneud hyn drwy:

  • Gynnal arferion ‘cadw tŷ’ da
    • Mesur a thargedu, newid ymddygiad a hyfforddiant, ac arolygu ac archwilio rheolaidd.
  • Buddsoddi er mwyn arbed yn ôl y galw
    • Uwchraddio seilwaith, lleihau dŵr yn gollwng, moderneiddio cyfleusterau, gwella dulliau rheoli dŵr.
  • Buddsoddi er mwyn arbed o ran cyflenwad
    • Buddsoddi ac Integreiddio Cyflenwadau Dŵr Adnewyddadwy

Yr Amgylchedd Adeiledig

Mae Datganiad Polisi Ynni Prifysgol Aberystwyth yn sicrhau dyfarniad ‘rhagorol’ mewn adeiladau prifysgol newydd a ‘da iawn’ mewn gwaith adnewyddu yn ôl asesiad BREEAM, Monitro Asesu Amgylcheddol Adeiladau Ymchwil a Sefydliad. Mae BREEAM yn darparu system gloriannu, asesu a graddio amgylcheddol gynhwysfawr ar gyfer adeiladau, sy’n cynnwys agweddau yn ymwneud â defnydd ynni a dŵr, yr amgylchedd mewnol (iechyd a lles), llygredd, trafnidiaeth, deunyddiau, gwastraff, ecoleg a phrosesau rheoli.  Mae Aberystwyth hefyd yn buddsoddi’n helaeth mewn amrywiaeth o gynlluniau arbed ynni ecogyfeillgar eraill – gweler ein Datganiad ar Berfformiad Rheoli Carbon 2022-23 am fwy o wybodaeth.