Bioamrywiaeth a Chadwraeth

Llygad y dydd

Darllenwch am ein prosiectau a'n polisïau bioamrywiaeth presennol isod.

Polisïau Bioamrywiaeth

Gyda gwreiddiau’r Brifysgol wedi’u plannu'n gadarn mewn amaethyddiaeth, mae'n hanfodol i ni fod bioamrywiaeth a chadwraeth ar flaen y gad o ran yr hyn a wnawn. 

Gellir dod o hyd i'n hadroddiad cynnydd bioamrywiaeth yma: Adroddiad y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau 2022

Darllenwch ein cynllun bioamrywiaeth yma: Cynllun Bioamrywiaeth Prifysgol Aberystwyth (Gorffennaf 2017)

Cynnal Arolwg Bioamrywiaeth

Er mwyn sicrhau ein bod yn gofalu am ein hystâd cystal ag y gallwn, rydym yn buddsoddi mewn arolwg bioamrywiaeth i'w gynnal yng Ngwanwyn 2024.

Bydd hyn yn cynnwys arolygon wedi'u targedu i nodi rhywogaethau a chynefinoedd cyffredinol a blaenoriaeth, a fydd yn ei dro yn creu map cynefin o dir y Brifysgol. 

Mae hyn yn hanfodol i adnabod ein hardaloedd bioamrywiaeth uchel, ac i gynhyrchu cynlluniau gwella tir penodol er mwyn gwarchod y rhywogaethau a'r cynefinoedd o'n cwmpas. 

Cynllun Plannu Coed

Mae ein Cynllun Plannu Coed, o dan Gynllun Creu Coetir Glastir, yn cynnwys plannu rhwng 90,000 a 120,000 o goed llydanddail brodorol dros 30 hectar o dir amaethyddol anghynhyrchiol i wella bioamrywiaeth, lleihau erydiad pridd a chynyddu’r lefelau dal carbon. 

Mae'r rhywogaethau o goed yn cynnwys gwernen, cerdinen, derwen ddigoes, aethnen, bedwen arian, ceiriosen yr aderyn, ceiriosen ddu, afal sur bach, sycamorwydden, bedwen gyffredin, barf y bwch a chollen. Bydd nifer fach o Ffynidwydd hefyd yn cael eu cynnwys yn y gymysgedd plannu.

Cafodd Cam 1 ein cynllun plannu coed ei gwblhau yn 2023, gyda 16,000 o goed llydanddail brodorol wedi'u plannu ar draws 3 safle. Ar ôl aeddfedu, disgwylir i'r coetir hwn gynyddu lefelau dal carbon y brifysgol o oddeutu 16tCO2e y flwyddyn.

Bydd Cam 2 ein prosiect, yn ddibynnol ar gymeradwyaeth, yn gweld 60,000 ychwanegol o goed llydanddail brodorol yn cael eu plannu ar draws safle Rhydyronnen dros y gaeaf hwn. Bydd hyn yn gwella bioamrywiaeth ymhellach ac o bosibl yn dal 60tCO2e ychwanegol o garbon. 

Mae'r prosiect hwn hefyd yn cefnogi'r amcanion a amlinellir gan ein Strategaeth tuag at Garbon Sero Net 2030 drwy gynyddu lefelau dal carbon ar draws ein hystâd. 

Dolydd blodau gwyllt ar y campws

Mae’r tîm tiroedd wedi bod yn cynnal a chadw dolydd blodau gwyllt ar draws y campws ers iddynt gael eu plannu yn wreiddiol yn 2016. 

Addo bod yn Gadarnhaol am Fyd Natur

Addo bod yn Gadarnhaol am Fyd Natur

Ystyr Bod yn Gadarnhaol am Natur yw atal neu wrthdroi unrhyw newidiadau negyddol i'r amgylchedd a'i ecosystemau, fel y gall ecosystemau iachach ddod i'r amlwg

Llofnododd Aberystwyth yr Addewid Cadarnhaol am fyd Natur ddechrau 2023, a thrwy ddefnyddio Cynllun Bioamrywiaeth Prifysgol Aberystwyth (Gorffennaf 2017) yn sylfaen, yn ogystal ag Adroddiad Cynnydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau 2022, rydym wedi gallu olrhain ein cynnydd a gosod targedau newydd. 

Gobeithiwn y gall ein prosiectau bioamrywiaeth yn y dyfodol gynyddu ymhellach amrywiaeth, cyfoeth a chadernid ecosystemau. 

Darllenwch fwy am Cadarnhaol am Natur yma