Addysg Cynaliadwyedd

Addysg ac Ymchwil Datblygiad Cynaladwy Aberystwyth 

Fel prifysgol, ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod myfyrwyr a staff fel ei gilydd yn cael eu haddysgu am ddatblygu cynaliadwy i feithrin yr wybodaeth, y gwerthoedd a'r sgiliau i gymryd rhan mewn penderfyniadau a fydd yn cael effaith hirdymor yn gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Gweler isod am fwy o wybodaeth ac i weld sut yr ydym wedi ymrwymo i ddull cyfannol o addysgu am ddatblygu cynaliadwy.

Ymrwymiad i Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy

Addysg ac Ymchwil Datblygu Cynaliadwy yn Aberystwyth

Addysg yw’r cyfrwng drwy’r hwn y gellir cyflawni datblygiad cynaladwy. Mae’ngalluogi pobl i ddatblygu’r wybodaeth, gwerthoedd a sgiliau i gymryd rhan mewn penderfyniadau am y ffordd rydyn ni’n gwneud pethau, yn unigol ac ar y cyd, yn lleol ac yn fyd-eang, a fydd yn gwella ansawdd bywyd nawr heb niweidio’r blaned ar gyfer y dyfodol . Nid yw Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaladwy yn bwnc ynddo’i hun, ond yn ddull addysgol holistig. Gan gydnabod hyn, mae integreiddio cynaladwyedd gydag  Addysg yn un o brif amcanion Aberystwyth yn y Cynllun Strategol hyd 2017. Mae amryw o ddatblygiadau polisi cenedlaethol a rhyngwladol hefyd wedi ychwanegu at ymrwymiad Aberystwyth i addysg gynaladwy, gan gryfhau’r achos o’i blaid.

Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaladwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang

Cynllun yw Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaladwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang  (ADCDF) a gaiff ei redeg gan Lywodraeth Cymru ac sy’n ceisio rhoi i ddysgwyr, ar bob safon o addysg, ddealltwriaeth o effaith eu dewisiadau ar bobl eraill, yr economi a’r amgylchfyd. Mae ADCDF yn anelu at herio dysgwyr er mwyn gweld sut y gallant gyfrannu i fywyd pobl eraill. Mae’n cael ei brif ffrydio drwy bob sefydliad addysg uwch a’i wneud yn rhan annatod o ystod eang o bynciau.

  • Mae PA wedi cynnal archwiliad o’r cwricwlwm yn ôl canllawiau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Cyhoeddwyd dadansoddiad o’r canlyniadau o sefydliadau yng Nghymru gan yr Academi Addysg Uwch, sy’n dangos bod Datblygu Cynaliadwy wedi’i ymgorffori yn 100% o raglenni astudio PA a 75% o fodiwlau PA. Dogfen gryno’r Academi Addysg Uwch:
    • Dadansoddiad o ADCDF yn sefydliadau Cymru (2009)
  • Mae Amcan 6 – Buddsoddi yn ein Dyfodol yn cynnwys ymrwymiad i Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF):
    • Parhau i ymgorffori ADCDF yng nghylch cynllunio blynyddol y Brifysgol,
    • Cyflwyno’r arfer gorau mewn ystyriaethau sy’n gysylltiedig ag agenda ADCDF trwy arweiniad gan yr Hyrwyddwyr penodedig, a pharhau i arolygu gweithgaredd yn y maes ledled y Brifysgol,

Dogfen Llywodraeth Cynulliad Cymru 'Education for Sustainable Development and Global Citizenship: A Strategy for Action'  

Degawd y Cenhedloedd Unedig o Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaladwy (2005-2014)

Mae Degawd y Cenhedloedd Unedig o Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaladwy (pdf) a lansiwyd yn 2005,  yn golygu cynnwys materion datblygu cynaladwy allweddol yn rhan o addysgu a dysgu; er enghraifft, newid hinsawdd,  lleihau risg trychineb, bioamrywiaeth, lleihau tlodi, a defnydd cynaladwy. Mae hefyd yn gofyn am ddulliau addysgu a dysgu cyfranogol sy’n symbylu a rhoi grym i ddysgwyr i newid eu hymddygiad ac i weithredu tuag at ddatblygiad cynaladwy. O ganlyniad mae Addysg ar Gyfer Cynaladwyedd yn hyrwyddo cymwyseddau megis meddwl yn feirniadol, dychmygu senarios y dyfodol a gwneud penderfyniadau mewn modd cydweithrediadol.  Mae Aberystwyth wedi cymryd y syniadau hyn i ystyriaeth wrth ddatblygu ei strategaethau addysg ac addysgu cynaladwy ei hun.

Cefnogi Staff Academaidd

Mae'n ofynnol i bob aelod o staff newydd ymgymryd â chwrs cynefino ar hyfforddiant ymwybyddiaeth amgylcheddol, ymhlith pynciau eraill, fel bod cynaliadwyedd yn parhau i fod yn rhan annatod o holl weithgareddau'r brifysgol ac yn rhoi sylfaen o ymwybyddiaeth amgylcheddol.  

Erbyn 2025, ein nod yw sicrhau bod pawb sy’n gwneud penderfyniadau ar lefel uwch yn cael hyfforddiant llythrennedd carbon.  Bydd hyn yn sicrhau bod allyriadau carbon a'u heffeithiau yn cael eu hystyried cyn i'r brifysgol wneud unrhyw waith mawr.  

Ymchwil Cynaladwyaeth yn Aberystwyth

Ymchwil Cynaladwyaeth yn Aberystwyth

Mae Aberystwyth hefyd yn ymgymryd ag ymchwil byd enwog i faterion amgylcheddol a chynaladwyedd, o wyddorau anifeiliaid a microbau, effaith amgylcheddol, themâu ymchwil allweddol amrywiaeth genomau a chynlluniau mentrau amgylcheddol yn yr adran IBERS, i rewlifeg, newid amgylcheddol, hydroleg a dynameg afonydd, y Ddaear ac arsylliad ecoleg, ymchwil cymdeithas a’r amgylchedd yn yr adran ADGD.  

Cyfleoedd Cyfartal i Fanteisio ar Addysg Uwch

Cyfleoedd Cyfartal i Fanteisio ar Addysg Uwch

Rydym yn awyddus i helpu i sicrhau bod addysg uwch ar agor i ystod mor eang â phosib o bobl. Dyna pam rydym yn cynnig ystod eang o ysgoloriaethau i gynorthwyo ag astudiaethau israddedigion ac ôl-raddedigion.

Cewch ddysgu mwy am ein cynllun gweithredu strategol i ehangu cyfleoedd addysg uwch yn ein strategaethau ehangu cyfranogiad ac ehangu mynediad.