Perfformiad Carbon a Chyfleustodau

Rydym yn falch o fod yn un o'r prifysgolion cyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddatgan argyfwng hinsawdd.

Cyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth ein Strategaeth tuag at Garbon Sero Net 2030 yn 2023, gan dynnu sylw at y camau yr ydym yn eu cymryd i gyflawni'r amcanion hyn. 

Dros y 5 blynedd diwethaf, rydym wedi buddsoddi dros £10 miliwn mewn mesurau lleihau carbon, gan gynnwys systemau solar a gwelliannau effeithlonrwydd ynni. Darllenwch fwy am y rhain isod.

Ffynonellau Ynni

Paneli Solar

Ym mis Chwefror 2023, cwblhaodd y Brifysgol waith ar baneli solar ffotofoltäig 2.5MW ger Fferm Penglais sydd yn cynhyrchu 25% o ofynion trydan blynyddol campws Penglais. Mae'r safle'n lleihau allbynnau blynyddol o allyriadau CO2 sy'n gysylltiedig ag ynni o >500tCO2e. 

Mae’r Brifysgol hefyd yn rhan o grŵp ehangach o 20 o brifysgolion sydd wedi taro bargen ynni gwyrdd nodedig gwerth £50m, i leihau ein hallyriadau a'n hôl troed carbon fel rhan o gytundeb pŵer prynu cyfun. Dyma'r tro cyntaf i ddefnyddwyr ynni'r sector cyhoeddus gydweithio ar fargen i brynu trydan glân.

Gwobrwywyd ein harae solar â statws rownd derfynol gwobrau ‘Green Gown’ 2023, gwobr sy'n tynnu sylw at ragoriaeth cynaliadwyedd ar draws addysg drydyddol. 

Green Gown Awards 2023. Ar y cyd â UKRI, Wedi cyrraedd ROWND DERFYNOL   Gwobrau Green Gown y Deyrnas Unedig ac Iwerddon 2023

Systemau Pen Tŷ 

Mae gennym hefyd nifer o systemau solar ar doeau ein hystâd, gan gynnwys 3 system ffotofoltaig solar yng Nghampws Gogerddan ac 1 yn Fferm Trawscoed. 

Lleihau Carbon

Datganiadau Blynyddol ar Berfformiad Rheoli Carbon

Er mwyn sicrhau bod ein Strategaeth Sero Net ar y trywydd iawn, rydym yn monitro ein perfformiad carbon bob blwyddyn i gymharu hyn â'n blwyddyn waelodlin 2019-2020. 

Yn 2025, gwelsom ostyngiad o 40% mewn allyriadau ers 2019, gan nodi ein hymrwymiad i sero net. 

Gweler ein Datganiadau Perfformiad:

Datganiadau ar Berfformiad Rheoli Carbon 2019-20 a 2020-21

Datganiad ar Berfformiad Rheoli Carbon 2021-22

Datganiad ar Berfformiad Rheoli Carbon 2022-23

Datganiad ar Berfformiad Rheoli Carbon 2023-24

Datganiad ar Berfformiad Rheoli Carbon 2024-25

Rheoli Carbon

Strategaeth tuag at Garbon Sero Net 2030 

Darllenwch ein Strategaeth tuag at Garbon Sero Net 2030

Yn 2019, cyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth argyfwng hinsawdd, gan gydnabod yr angen i gefnogi'r trawsnewid i ddyfodol carbon isel.

I gefnogi hyn, mae Prifysgol Aberystwyth wedi cytuno'n wirfoddol i ymrwymo i darged sero net erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2030-31, gyda'n Strategaeth tuag at Garbon Sero Net 2030, gan osod targedau CAMPUS i leihau allyriadau.