Her Busnes 2022

Cofrestrwch am Her Busnes 2022 Ysgol Fusnes Aberystwyth, bydd y tîm sy'n cael y wobr gyntaf yn ennill hyd at £3000*

Os ydych chi'n hoffi gwylio "The Apprentice" neu "Dragon's Den" yna rydyn ni'n meddwl y byddwch chi'n caru'r gystadleuaeth hon. Ochr yn ochr â'r siawns o ennill gwobrau gwych gyda'ch tîm, ac i'ch ysgol neu'ch coleg byddwch hefyd yn gallu adeiladu a dangos sgiliau a chymwyseddau a fydd yn helpu i gael lle y brifysgol yr ydych ei eisiau, neu'r cam cyntaf hwnnw ar eich llwybr gyrfa dewisol.

Mae'r gystadleuaeth yn eithaf syml. Byddwch yn dewis senario busnes o'r pynciau Cyllid, Arweinyddiaeth, a Datblygu'r Farchnad. Bydd eich tîm yn dadansoddi ac yn darparu cyflwyniad fideo 3 munud ar sut y byddech yn cyflawni'r nod. Mae'r holl opsiynau'n ymwneud yn uniongyrchol â'ch cwrs Busnes Lefel 3 Blwyddyn 12, felly byddant yn eich helpu i ddeall y ddamcaniaeth graidd ac yn darparu tystiolaeth i chi y gallwch gyfeirio atynt yn eich asesiadau. Bydd ymgeisio yn y gystadleuaeth hefyd yn helpu i ddatblygu cymhwysedd a sgiliau pwysig y gellir eu defnyddio yn eich datganiad personol UCAS wrth wneud cais am le eich prifysgol.

Nodwch enw eich tîm, a'ch manylion cyswllt isod a byddwn yn anfon pecyn y gystadleuaeth atoch.

Cliciwch yma i gofrestru

*Bydd yr ysgol/coleg sy'n ennill y wobr fuddugol yn ennill £2000 gyda phob myfyriwr yn ennill £200 yr un.

 

Y TASGIAU

Os ydych eisoes wedi cofrestru yna cliciwch ar y ddolen uchod i weld y tasgau ar gyfer y gystadleuaeth.

Trosolwg yn Saesneg o'r gystadleuaeth gan Ian Harris, Cyfarwyddwr Marchnata a Denu Myfyrwyr yn Ysgol Fusnes Aberystwyth -

 

Trosolwg arall yn Saesneg o'r gystadleuaeth gan Tabitha Faycun, Ysgol Fusnes Aberystwyth -

Hoffech dderbyn cyfathrebiadau drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg?

Trwy gofrestru ar gyfer Cystadleuaeth Ysgol Busnes Aberystwyth rydych yn rhoi caniatâd i Brifysgol Aberystwyth gysylltu â chi gyda gwybodaeth berthnasol am y gystadleuaeth.