Ar hyn o bryd rwy’n gweithio yn ninas Llundain fel swyddog datblygu busnes i gwmni o’r enw Sogeti. Mae Sogeti yn is-gwmni i Capgemini, sy’n arbenigo mewn profi meddalwedd. Mae fy ngwaith fel Swyddog Gweithredol Datblygu Busnes yn pontio adran farchnata ac adran werthu’r cwmni. Rwy’n gyfrifol am gynhyrchu awgrymiadau a datblygu busnes newydd. Mae fy nghyfrifoldebau hefyd yn cynnwys llunio adroddiadau wythnosol ar gyfer pennaeth ein rhiant-gwmni ym Mharis ac adrodd ar weithgarwch marchnata ac asesu llwyddiant ymgyrchoedd. Yn rhinwedd fy swydd, rydw i eisoes wedi teithio i bob cwr o’r DU a mynychu nifer o ddigwyddiadau corfforaethol, lle mae’r gwin nid yn unig am ddim ond yn flasus iawn hefyd!

Fe wnes i astudio cyllid busnes yn Aberystwyth a llwyddo i gael 2:1, a does dim dwywaith amdani, mae fy ngradd wedi bod yn amhrisiadwy. Diolch i natur hyblyg y strwythurau gradd yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes, roedd cyfle i mi wneud modiwlau mewn Marchnata ac Economeg sydd wedi rhoi dirnadaeth a dealltwriaeth i fi o’r farchnad, a fyddai hynny ddim wedi digwydd ar gwrs gradd cyllid traddodiadol. Mae’r amrywiaeth eang o fodiwlau blwyddyn gyntaf y mae myfyrwyr yr Ysgol Rheolaeth a Busnes yn cael eu hannog i’w hastudio wedi rhoi dealltwriaeth gyflawn i fi o’r cylch gwerthu a’r gweithrediadau busnes sydd bellach yn rhan annatod o’m swydd.

Ar y cyfan, dydw i ddim yn credu y byddwn i wedi gallu cyflawni dim o hyn heb Ysgol Rheolaeth a Busnes Aberystwyth. Rydw i nid yn unig wedi gallu mynd allan i’r byd gwaith gyda dirnadaeth ddamcaniaethol ac ymarferol wych o fusnes, ond rydw i hefyd wedi meithrin y gallu i fod yn hyderus a chyfathrebu’n fwy effeithlon, diolch i gymuned integredig myfyrwyr a staff yr Ysgol Rheolaeth a Busnes yn Aber.