Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio fel hyfforddai graddedig yn Hilton World Wide. Dewisais astudio Busnes a Rheolaeth oherwydd ei fod yn cynnig yr hyblygrwydd a’r dewis i fi deilwra fy ngradd i gyd-fynd â’r agweddau o’m dewis. Er enghraifft, fe wnes i astudio modiwlau mewn Cyfrifeg a Chyllid a Chyfraith Ewrop. Yn ystod fy amser yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes, roedd y darlithwyr yn agos-atoch, yn gyfeillgar ac yn barod i helpu. Nid yn unig y darlithwyr – roedd y staff gweinyddol bob amser ar gael i roi help llaw ac i gynnig cyngor hefyd.

Yn ystod fy nhair blynedd yn Aber, fe fues i’n ddigon ffodus i gael bod yn gynrychiolydd myfyrwyr ar gyfer fy nghynllun gradd ac roeddwn i’n llywydd cymdeithas The Biz am ddwy flynedd. Rhoddodd y cyfleoedd hyn gyfle i fi weithio’n agosach gyda’r adran ac i ddod i adnabod fy narlithwyr ychydig yn well. Mae’r cyswllt adnoddau a rhwydweithio rhwng yr adran a’r brifysgol yn ei gwneud hi’n bosibl cyflawni unrhyw syniad sy’n dod i’ch meddwl (o fewn rheswm) e.e. y cyfle i gymryd blwyddyn allan – mae’r ysgol yn gweithio’n agos gyda’r adran Gyrfaoedd a chyda Phrifysgolion ledled y byd ac maen nhw’n weithgar yn hyrwyddo cyfleoedd i fyfyrwyr gymryd blwyddyn i ffwrdd, naill ai i weithio neu i astudio.

Y gair fyddwn i’n ei ddefnyddio i ddisgrifio fy amser yn Aber yw ANHYGOEL! Roeddwn wrth fy modd â phob agwedd ar y lle, o’r bywyd cymdeithasol i’r bywyd academaidd (hyd yn oed cerdded i fyny Rhiw Penglais). Efallai bod Aber yn dref fach ond dydy hi byth yn ddiflas. Rwy’n credu’n gryf fy mod wedi cyfarfod â rhai o’r bobl fwyaf anhygoel yn ystod fy amser yma, a bydd rhai ohonyn nhw’n dal i fod yn ffrindiau agos ac yn ffrindiau gorau, ble bynnag yn y byd fyddwn ni.