Fe wnes i benderfynu astudio ar gyfer gradd anrhydedd cyfun er mwyn meithrin profiad o ddau faes pwnc gwahanol, gan roi sylfaen wybodaeth eang a fyddai’n rhoi hwb i’m rhagolygon gyrfaol. Roedd Aberystwyth yn un o’r sefydliadau a fyddai’n caniatáu i fi gyfuno astudio cyfrifeg ac economeg. Fe wnes i ddewis astudio yn Aberystwyth oherwydd fy  mod i’n teimlo, ar ôl mynychu’r diwrnod ymweld, ei fod yn cynnig amgylchedd dysgu hynod gyfforddus, ac roeddwn i’n gallu gweld bod llawer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau y tu hwnt i’m hastudiaethau academaidd. Derbyniais wobr teilyngdod hefyd, ar ôl sefyll arholiad ysgoloriaeth mynediad, ac fe wnaeth hynny fy helpu’n ariannol.

Roedd staff a thiwtoriaid yr Ysgol Rheolaeth a Busnes yn agos-atoch a bob amser yn barod i gynnig help llaw a chymorth os oedd gennych chi unrhyw gwestiwn. Mae’r Ysgol Rheolaeth a Busnes yn rhoi llawer iawn o werth ar ei myfyrwyr ac yn cydnabod gwaith caled a chyflawniad. Mae’r gwasanaeth gyrfaoedd yn adnodd gwerthfawr ac fe fyddwn i’n argymell bod pob myfyriwr yn defnyddio’r gwasanaeth. Fe wnaeth fy helpu i gael lleoliad profiad gwaith byr yn adran gyllid Cyngor Sir Ceredigion.

Mae ysbryd gwych ymhlith holl fyfyrwyr Aberystwyth. Mae nifer o glybiau a chymdeithasau chwaraeon i chi ymuno â nhw ac mae rhywbeth at ddant pawb. Mae ymuno â chlwb neu gymdeithas yn ffordd wych o gyfarfod â phobl sydd â diddordebau tebyg ac o wneud ffrindiau. Yn ystod fy nghyfnod yn Aberystwyth, roeddwn i’n chwarae mewn tîm pêl-droed yn y gynghrair Digs, a fi oedd y capten yn fy mlwyddyn olaf. Roeddwn hefyd yn gwneud defnydd rheolaidd o’r cyfleusterau yn y ganolfan chwaraeon, gan gynnwys y gampfa.

Drwy fy astudiaethau academaidd a thrwy gymryd rhan mewn gweithgareddau eraill tra roeddwn yn Aber, fe wnes i ddatblygu fy sgiliau rhyngbersonol yn sylweddol ac rwy’n teimlo fy mod i wedi cael sail gadarn ar gyfer fy nyfodol. Cyn bo hir, fe fyddaf yn dechrau ar gontract hyfforddi yn KPMG, i ddod yn Gyfrifydd Siartredig ACA.