Ar ôl gorffen yn yr ysgol a derbyn fy nghanlyniadau Lefel A, roedd hi’n frawychus braidd gorfod penderfynu ar yrfa broffesiynol.

Ar ôl clywed llawer o bethau cadarnhaol am Brifysgol Aberystwyth gan ffrindiau hŷn, dyma benderfynu astudio Seicoleg a Marchnata, dau beth a oedd wedi ennyn fy niddordeb erioed. Wrth i’r cwrs fynd yn ei flaen, tyfu wnaeth fy angerdd tuag at y ddwy ddisgyblaeth. Roedd dysgu am yr holl ddulliau gwahanol o farchnata gan rai o’r goreuon yn eu maes yn brofiad anhygoel! Fe wnaeth brwdfrydedd ac ymroddiad y darlithwyr fy helpu i ganolbwyntio ar yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud ar ôl graddio.

Erbyn fy nhrydedd flwyddyn, roeddwn i’n benderfynol o ddilyn gyrfa ym maes marchnata. Erbyn hynny, roeddwn i wedi meithrin cysylltiadau gwych gyda’r nifer fawr o bobl a oedd wedi fy helpu ar fy nhaith. Ar hyn o bryd, rwy’n hyfforddai graddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gweithio ar drefnu digwyddiadau ar gyfer y Swyddfa Gynadledda, ac rydw i hefyd yng nghamau cynnar lansio fy musnes ar-lein fy hun drwy ddefnyddio’r sgiliau gwerthfawr rydw i wedi’u datblygu yn ystod fy astudiaethau.

Mae gen i ddyled fawr i’r Brifysgol ac i’r bobl y gwnes i eu cyfarfod, a’r bobl rwy’n dal i’w cyfarfod bod dydd yn rhinwedd fy swydd. Mae’r hyn maen nhw’n ei ddweud yn berffaith wir. Eich blynyddoedd yn y brifysgol yw rhai o flynyddoedd gorau eich bywyd. Bachwch bob cyfle!