Diolch i’r Ysgol Rheolaeth a Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth, llwyddais i fagu’r dewrder a’r hyder i wireddu fy llawn botensial a chyflawni fy nodau. Daeth fy nhiwtor Dr Homagni Choudhury yn ffrind da, ac fe roddodd lefel wych o gefnogaeth i fi a’m helpu i ddod o hyd i ffordd briodol o astudio a meddwl yn ystod fy nghwrs, gyda hynny’n cyfrannu at gyflawni fy nod o ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf.

Yn ystod blwyddyn olaf fy astudiaethau, fe benderfynais i a chriw o gyd-fyfyrwyr sefydlu cymdeithas myfyrwyr yn benodol ar gyfer myfyrwyr Economeg. Fe es i mlaen i ymgymryd â swydd llywydd cyntaf Cymdeithas Economeg Prifysgol Aberystwyth. Drwy gofrestru’r Gymdeithas Economeg fel cymdeithas lawn gydag Undeb y Myfyrwyr a chyhoeddi pwyllgor newydd ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, rydw i (a chyd-sylfaenwyr y gymdeithas) yn gobeithio y bydd yn ffynnu am flynyddoedd lawer i ddod, a hoffwn annog unrhyw fyfyrwyr newydd i ymuno! Fe wnes i dreulio tair blynedd anhygoel yn Aberystwyth ac rwy’n falch o fod yn un o gyn-fyfyrwyr y Brifysgol. Rydw i bellach wedi symud ymlaen i astudio am radd Meistr ym Mhrifysgol Caeredin lle byddaf yn treulio dwy flynedd yn astudio Economeg ar Raglen Graddedigion yr Alban.