Mynd i Aberystwyth oedd un o’r pethau gorau i fi ei wneud erioed! Mae fy ngradd mewn Marchnata yn sicr wedi agor drysau, ac mae cael brand y Brifysgol y tu cefn i fi hefyd wedi fy helpu i gael y swydd sydd gen i ar hyn o bryd.

Mae blwyddyn gyntaf y radd Marchnata yn ymwneud â meithrin sgiliau a gwybodaeth am sylfeini marchnata a meysydd busnes eraill, yn ogystal â dod i adnabod y dref fach wych hon – lle mae llong gwlad o bethau i’w gwneud! – a phawb ynddi. Mae’r darlithwyr a staff eraill yr adran yno i’ch helpu i dyfu fel person, yn academaidd ac yn broffesiynol. Mae’r ail a’r drydedd/bedwaredd flwyddyn yn ymwneud ag arbenigo mewn agweddau penodol ar farchnata – megis cyfathrebu marchnata neu ymddygiad defnyddwyr. Dyma pryd mae gwir ddyfnder eich gwybodaeth am y pwnc yn cael ei brofi a gyda thîm gwych sy’n ymroddedig i’ch dysgu, fe fyddwch chi’n meithrin dirnadaeth lawn o’r pwnc yn ogystal â chael golwg byd gwaith go iawn ar y diwydiant!

Y darlithwyr yma hefyd wnaeth fy helpu i gael lle ar fy nghwrs gradd Meistr mewn Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus, a fyddwn i ddim wedi gallu gwneud hynny heb y gefnogaeth ges i gan fy narlithwyr yn ystod fy nghyfnod yn Aberystwyth. Rhan o apêl dod yma oedd yr holl weithgareddau allgyrsiol a oedd yn cael eu cefnogi gan yr adran, er enghraifft y cystadlaethau marchnata mewnol niferus, a helpodd fi i fireinio fy sgiliau a’u rhoi ar waith yn ymarferol. Heb sôn am gystadleuaeth genedlaethol y Sefydliad Marchnata Siartredig yng Nghymru, Brolio The Pitch, lle rydych chi’n cystadlu fel tîm yn erbyn grwpiau o sefydliadau Cymreig eraill gan greu ymgyrch farchnata – gallwch fy ngweld i ar fideo Brolio The Pitch 2014 ar YouTube.

Mae’r amser a dreuliais yn Aberystwyth, yn y brifysgol a’r dref, wedi fy helpu i dyfu’n berson proffesiynol, hyderus a gwybodus ac mae’r diolch am hynny i’r darlithoedd a phobl y brifysgol. Rydw i wedi cyfarfod â ffrindiau o bob cwr o’r byd, a phob un ohonyn nhw wedi dod yn ffrindiau oes diolch i’r gymuned unigryw rydych chi’n ei datblygu drwy gydol eich cyfnod yma.

Maen nhw’n dweud mai eich blynyddoedd yn y brifysgol yw blynyddoedd gorau eich bywyd, ac roedd hynny’n bendant yn wir i fi yma yn Aberystwyth.