Mae’n siŵr mai dewis dilyn gradd Anrhydedd mewn Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth oedd un o’r penderfyniadau gorau wnes i erioed! O’r hyblygrwydd y mae’r cwrs yn ei ddarparu i fywiogrwydd y dref myfyrwyr, mae Aberystwyth nid yn unig wedi rhoi’r profiad myfyriwr gorau i fi, ond mae hefyd wedi fy ngweddnewid i fod yn unigolyn cyflawn gyda galluoedd dadansoddi a gwerthuso trylwyr.

A minnau’n entrepreneur o ran anian, fe wnes i ddewis Busnes a Rheolaeth yn hytrach na chyrsiau mwy penodol fel Cyfrifeg a Chyllid gan ei fod yn cynnig amrywiaeth ehangach o bynciau i fi weithio gyda nhw a hefyd yn rhoi blas i fi ar yr holl brif swyddogaethau sydd eu hangen i redeg busnes yn llwyddiannus; fe ges i’r cyfle ar y rhaglen i brofi’r holl sgiliau a’u datblygu bob yn un. Rydw i bellach wrthi’n creu a rhedeg fy nghwmni fy hun ac mae’r arbenigedd ges i yn ystod fy nghwrs gradd yn agwedd annatod. Gyda hyn, rydw i am roi hwb pellach i ‘mhrofiad / CV ac yn gobeithio sicrhau lle ar un o’r rhaglenni MBA cystadleuol a gynigir gan Brifysgolion yr Ivy League.

Hefyd, drwy gael dealltwriaeth gynhwysfawr o agweddau damcaniaethol a dulliau ymchwil amrywiol y cwrs, roeddwn i’n gallu addasu a llwyddo mewn amgylcheddau prysur a chyfnewidiol drwy gymhwyso’r wybodaeth hon yn ymarferol gyda thechnegau dadansoddi meintiol / ansoddol helaeth a meddwl deinamig; roedd hyn yn arbennig o berthnasol yn ystod fy nghyfnod fel intern gydag adran ymgynghori rheoli KPMG.

Mae fy nhair blynedd yn Aberystwyth ac yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes wedi bod yn gofiadwy iawn ac yn llawn dop o bob math o weithgareddau. Mae’r darlithwyr yn hynod gyfeillgar a bob amser yno i helpu hyd yn oed gyda’r amheuon lleiaf; heb eu hysgogiad a’u cefnogaeth, fyddwn i ddim wedi llwyddo i gael gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf. Fel rhan o’r cynllun gradd, roeddwn hefyd yn ddigon ffodus i gael y cyfle i fynychu seminarau arweinyddiaeth arbenigol a chwrs penodol a gynhaliwyd gan CIMA a’r Ysgol Rheolaeth a Busnes a oedd hefyd yn gyfle gwerthfawr i rwydweithio.

Mae’r campws yn hyfryd ac yn cynnig pob math o weithgareddau a chymdeithasau i’r myfyrwyr. Roedd cic-focsio yn un o’m ffefrynnau personol gan fod y bobl yn wych, yr hyfforddiant yn gyffrous ac roedd yn ffordd ardderchog o leddfu unrhyw straen, yn enwedig wrth ysgrifennu fy nhraethawd hir. Gan fy mod i’n dod o ddinas fawr, roeddwn i wrth fy modd â thawelwch y dref ac yn mwynhau mynd am dro yn y coed ac ar y traeth. Er ei bod yn dref fach, doedd dim rhaid cyfaddawdu o gwbl o ran bywyd cymdeithasol na bywyd nos! Heb os nac oni bai, yn Aber, byddwch yn gwneud ffrindiau oes o bedwar ban byd a fydd yn gwneud eich amser yno yn hollol anhygoel!