Mrs Nerys Fuller-Love

Mrs Nerys Fuller-Love

Darllenydd

Ysgol Fusnes Aberystwyth

Manylion Cyswllt

Proffil

Mae Nerys yn dysgu nifer o fodiwlau yn Ysgol Fusnes Aberystwyth gan gynnwys y modiwl traethawd hir yn y drydedd flwyddyn yn ogystal ag Entrepreneuriaeth a Chreu Menter Newydd yn yr ail flwyddyn. Yn y modiwl hwn mae'r myfyrwyr yn datblygu cynllun busnes i'w gyflwyno i ddarpar fuddsoddwyr. Mae hi hefyd yn dysgu modiwl blwyddyn gyntaf yn y flwyddyn gyntaf trwy gyfrwng Cymraeg, Hanfodion Rheolaeth a Busnes. 

 

Prif ddiddordebau ymchwil Nerys yw entrepreneuriaeth a rheoli busnesau bach. Mae hi wedi ysgrifennu erthyglau ar amrywiaeth eang o faterion rheoli fel busnesau bach yn y cyfryngau, entrepreneuriaeth benywaidd, rhwydweithiau, strategaeth a TG. Mae Nerys wedi golygu rhifynnau arbennig o gyfnodolion a bu hefyd ar fwrdd golygyddol y International Journal of Gender and Entrepreneurship. Yn ddiweddar mae hi wedi ysgrifennu llyfr, Absolute Essentials of Entrepreneurship, a gyhoeddwyd gan Routledge yn 2020, sydd hefyd ar gael fel e-lyfr a llyfr sain. 

 

Mae Nerys hefyd wedi bod yn rhan o brosiectau ymchwil a ariannwyd gyda gwerth oddeutu € 4.5 miliwn gan gynnwys € 1.7 miliwn ar gyfer Rhwydweithiau Dysgu Hunangynhaliol (SLNIW) a € 1.2 miliwn ar gyfer y prosiect Entrepreneuriaeth Benywaidd yng Nghymru a Lloegr (FEIW). Hi oedd Prif Ymgeisydd Cymru ar gyfer y prosiectau hyn a oedd yn fentrau ar y cyd â  Waterford Institute of Technology yn Iwerddon. Roedd y rhwydweithiau hyn yn cefnogi busnesau lleol yng Nghymru ac Iwerddon yn datblygu ac yn tyfu eu busnesau. 

Ar hyn o bryd Nerys yw'r Tiwtor Cyswllt ar gyfer Coleg Brickfields ym Malaysia. Mae Nerys wedi bod yn Ddirprwy Gyfarwyddwr y Sefydliad Busnes a'r Gyfraith a hefyd oedd Pennaeth Adran dros dro Adran y Gyfraith a Throseddeg.

Dysgu

Module Coordinator
Lecturer
Tutor
Coordinator
Moderator

Cyfrifoldebau

Nerys yw'r Tiwtor Cyswllt ar gyfer Coleg Brickfields ym Malaysia.

Oriau Swydda (Amseroedd Cyswllt Myfyrwyr)

  • Dydd Llun 3pm-4pm
  • Dydd Mercher 3pm-4pm

Cyhoeddiadau

Bennett-Gillison, S, Fuller-Love, N & Jones, J 2024, Fair Pay for Writers’ research report. Prifysgol Aberystwyth | Aberystwyth University. 10.20391/f3p9-qv97
Fuller-Love, N & Murphy, L 2023, Circular economy implementation: Case studies in Wales. Cardiff Metropolitan University.
Fuller-Love, N 2020, Absolute Essentials of Entrepreneurship. Absolute Essentials of Business and Economics, Taylor & Francis, Abingdon.
Abbott, J & Fuller-Love, N 2020, 'Networking for equine complementary therapists in the rural economy', Journal of Rural Studies, vol. 75, pp. 110-118. 10.1016/j.jrurstud.2020.01.011
Fuller-Love, N & Akiode, M 2020, 'Transnational Entrepreneurs Dynamics in Entrepreneurial Ecosystems: A Critical Review', Journal of Entrepreneurship and Innovation in Emerging Economies, vol. 6, no. 1, pp. 41-66. 10.1177/2393957519881921
Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil