Dysgu trwy Gyfrwng y Gymraeg

Mae Ysgol Fusnes Aberystwyth yn cynnig dewis eang o fodiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dysgir y modiwlau canlynol yn gyfan-gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Flwyddyn Gyntaf, gyda darlithoedd a sesiynau tiwtorial pwrpasol:

  • Hanfodion Rheolaeth a Busnes;
  • Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes.

Yn y drydedd flwyddyn mae yna opsiwn i gwblhau modiwl profiad gwaith yn ystod y tymor neu yn ystod yr haf (rhwng yr ail a’r drydedd flwyddyn). Cefnogir y modiwl yma trwy gynnal seminarau cyfrwng Cymraeg yn hytrach na darlithoedd:

  • Sgiliau Cyflogadwyedd ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol.

Dysgir y modiwlau canlynol mewn darlithoedd cyfrwng Saesneg yn yr ail a’r trydedd flwyddyn, ond cynigir sesiynau tiwtorial trwy gyfrwng y Gymraeg:

  • Rheolaeth Marchnata;
  • Rheolaeth Adnoddau Dynol;
  • Gweithrediadau a Rheoli’r Gadwyn Cyflenwi;
  • Entreprenwriaeth a Chreu Menter Newydd;
  • Arweinyddiaeth Strategol;
  • Seicoleg Sefydliadol;
  • Traethawd Hir (pwysoliad dwbl).

Gallwch ddewis ysgrifennu a chyflwyno gwaith i’w asesu ar gyfer unrhyw fodiwl yn Gymraeg.