Prawf o Statws Myfyrwyr

Am wahanol resymau, efallai y dymunwch gael prawf o’ch statws fel myfyriwr yn y Brifysgol. Y mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • Gwneud cais am fisa i astudio yn y DU
  • Gwneud cais am ostyngiad yn Nhreth y Cyngor
  • Tystiolaeth o astudio ar gyfer cyrff noddi neu Ymddiriedolaethau Elusennol
  • Rhoi prawf o’ch statws fel myfyriwr i awdurdodau tramor

Gall y Swyddfa Academaidd roi tystiolaeth o’ch statws ar eich cais.

Gallwch gysylltu â’r swyddfa yn y modd canlynol:

  • trwy e-bost: aocstaff@aber.ac.uk
  • trwy ffôn: 01970 622354 / 622016
  • yn bersonol neu trwy lythyr i’r: Swyddfa Academaidd (Ardystiadau), Prifysgol Aberystwyth, Y Llawr Gyntaf, Adeilad Cledwyn, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DD

Wrth wneud cais, cofiwch nodi:

  • eich enw llawn a’ch cyfeirnod myfyriwr (neu ddyddiad geni os nad oes gennych gyfeirnod)
  • i ble y dylid anfon y dystysgrif neu a fyddwch yn dod i'w nôl o’r Swyddfa Academaidd
  • paham fod angen y dystysgrif arnoch

Dylech ganiatáu lleiafswm o dri diwrnod gwaith er mwyn i’ch tystysgrif gael ei pharatoi. Efallai y bydd yn cymryd mwy na hynny os yw’n golygu bod yn rhaid i’r Swyddfa Academaidd geisio gwybodaeth benodol o rywle arall, neu yn ystod cyfnodau prysur yn y Swyddfa.