Datganiad Hygyrchedd Technegol

Gwybodaeth Dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1, oherwydd y rhannau a restrir isod nad ydynt yn cydymffurfio.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod ar gael am y rhesymau canlynol.

Achosion o beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Ffurflenni

Does dim labeli gan y meysydd mewn ffurflenni. Gall hyn olygu nad yw'n glir i bobl sy’n llenwi'r ffurflen pa ddata y dylen nhw ei roi yn y maes. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Does dim priodweddau awtolenwi wedi’u diffinio ar gyfer rhai meysydd mewn ffurflenni. Gall hyn olygu ei bod yn anos i bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol ddeall pa ddata a ddylai gael ei roi yn y maes. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.5, sef Adnabod Diben y Mewnbwn

Penawdau

Mae gan rai tudalennau destun sy'n edrych fel pennawd ond sydd heb ei farcio fel pennawd. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Delweddau

Mae rhai delweddau heb destun fel dewis amgen. Mae hyn yn golygu nad yw'r wybodaeth yn y delweddau ar gael i bobl sy’n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.1.1 Cynnwys Annhestunol.

Mae enw'r wefan yn cael ei gyflwyno ar ffurf testun mewn delwedd, heb destun amgen. Mae hyn yn golygu nad yw enw'r wefan ar gael i bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.1.1 Cynnwys Annhestunol na maen prawf 1.4.5 Delweddau o Destun.

Bysellfwrdd

Does dim modd cyrchu rhai rhannau o dudalennau (gan gynnwys y prif adran lywio) drwy gyfrwng y bysellfwrdd. Mae hyn yn golygu nad yw'r wybodaeth ar gael i bobl sy'n llywio drwy'r bysellfwrdd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.1.1 Bysellfwrdd.

Tirnodau

Does dim tirnodau wedi'u nodi yn y tudalennau. Mae hyn yn golygu y gallai pobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol ei chael hi'n anodd cyfeirio eu hunain a llywio o gwmpas y tudalennau. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Does dim dolen 'sgipio’r llywio' ar gael ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu nad yw pobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol yn gallu sgipio heibio i'r adran lywio er mwyn cyrraedd prif gynnwys y tudalen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.1 Osgoi Rhwystr.

Iaith

Does dim gwybodaeth am iaith y tudalen wedi'i diffinio. Gall hyn olygu na all technoleg gynorthwyol gyflwyno'r testun yn y ffordd gywir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 3.1.1, Iaith y Tudalen.

Dolenni

Mae gan rai tudalennau ddolenni sy’n defnyddio testun nad yw'n dweud wrth y defnyddiwr i ble y bydd y ddolen yn mynd â nhw. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.4 Diben Dolen (Yn ei Chyd-destun).

Mae elfennau rhestrau sydd heb gael eu cynnwys mewn rhestr. Mae hyn yn golygu y gallai pobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol ei chael hi'n anodd llywio'r rhestrau. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Mae yna restrau sy'n cynnwys eitemau heblaw elfennau rhestr safonol. Mae hyn yn golygu y gallai pobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol ei chael hi'n anodd llywio'r rhestrau. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Tablau

Mae tablau’n cael eu defnyddio ar gyfer y cynllun drwy'r wefan i gyd. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Testun

Pan fydd chwyddiad y porwr yn cael ei gynyddu i 400%, nid yw’r cyfan o’r testun yn ail-lifo. Mae hyn yn golygu y bydd pobl sydd angen chwyddo’r testun yn gorfod sgrolio o'r chwith i'r dde i'w ddarllen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.10, Ail-lifo

Baich anghymesur

Mae llawer o anawsterau hygyrchedd i’w cael yn y system cofnodion myfyrwyr bresennol a fyddai'n gofyn am lawer o waith i’w datrys. Rydyn ni wrthi'n datblygu system newydd, ac felly byddai manteision gwella’r system bresennol yn fach, a thros dro yn unig y bydden nhw’n para. Rydym yn credu y byddai gwneud y gwelliannau hyn nawr yn faich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd. Byddwn yn sicrhau bod y system newydd yn hygyrch.

Yr hyn rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Rydyn ni wrthi’n datblygu cofnod myfyrwyr newydd, a fydd yn cynnwys gwelliannau hygyrchedd o’i gymharu â’r system bresennol. 

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn 

Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 18/9/20. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 18/9/20.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 18/9/20. Cynhaliwyd y prawf yn fewnol gan ddefnyddio cyfuniad o brofion â llaw ac awtomataidd.