Ymchwil

Ymchwilydd yn rheoli robot.

Mae gan ein hadran Gyfrifiadureg dîm bywiog o weithwyr ymchwil sydd yn cynnwys staff darlithio, staff ymchwil a myfyrwyr ymchwil.

Trefnir gwaith ymchwil yr Adran mewn grwpiau ymchwil: Grŵp Ymresymu Datblygedig, Grŵp Biowybodeg a Bioleg Gyfrifiannol, Roboteg Ddeallusol ac Grŵp Graffeg Gweld a Delweddu.

Mae’r holl grwpiau yn ymchwilio ac yn datblygu technegau a ffyrdd o gymhwyso systemau deallus lle’r ydym yn mynd ati i annog cydweithio’n agos rhwng grwpiau, fel bod ymchwil yr Adran yn cael ei gydlynu’n agos iawn.

Mae’r Grŵp Ymresymu Datblygedig yn adnabyddus am ei waith arloesol ar ddiagnosis wedi’i awtomeiddio a dadansoddi methiannau, ac am ddyfeisio technegau niwlog-garw i fformiwleiddio a symleiddio modelau gwybodaeth.

Mae’r Grŵp Bio-informateg a Bioleg Gyfrifiannol yn cynnal ymchwil mewn meysydd fel dadansoddi data biolegol ar raddfa fawr, ffurfioli data biolegol, gwybodeg fiofeddygol, geneteg, fferyllogenomeg a bioleg systemau.

Mae’r Grŵp Roboteg Ddeallusol yn grŵp roboteg adnabyddus yn y DU, ac y mae’n rhan o rwydwaith Roboteg a Systemau Annibynnol y DU (EPSRC). Mae’r grŵp yn ymwneud â chonsortia ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol, sy’n ymdrin ag ystod eang o barthau: o’r tir, y môr, yr awyr a’r gofod yn ogystal â roboteg dan do. Mae’n canolbwyntio ar faterion meddalwedd a chaledwedd sy’n allweddol i "amgylcheddau digyfyngiad”.

Mae gan y Grŵp Gweledigaeth, Graffeg a Delweddu amrywiol ddiddordebau sy’n ymdrin â llawer agwedd ar greu a phrosesu data gweledol gan gynnwys dadansoddi a deall delweddau meddygol; ‘gweld’ cyfrifiadurol ar gyfer roboteg; realiti rhithiol i ymchwilio i’r blaned Mawrth; modelu gweld er mwyn deall canfyddiad pobl; a chymhwyso ‘gweld’ cyfrifiadurol ym meysydd bioleg y môr a bioleg planhigion.