Gweledigaeth, Graffeg a Delweddu

‌‌Defnyddir dadansoddiad gweadedd a synthesis mewn triniaeth ddelwedd a dealltwriaeth delwedd feddygol; cefnogir datblygiadau yn agweddau topolegol y maes gan nawdd yr EPSRC.

Mae cofrestriad wedi canolbwyntio ar geometreg gyfrifiadurol a nodweddion mathemategol delweddau a chyfaint, cydnabyddiaeth symudiad cymalog er mwyn mesur a phwyso patrymau cerdded dynol, a dadansoddiad siâp meddygol.

O safbwynt ymchwil, canolbwynt gwaith cyfredol yw:

  • dadansoddiad data topolegol ar ofodau delwedd maint uchel a data meddygol
  • dadansoddiad delwedd panoramig am weledigaeth roboteg effeithlon a “gweithio-ym-mhobman”
  • Paru siâp 3-D a ffurf rhydd i fodelu gwrthrychau 3-D cymhleth a datblygu darluniadau cryno o’r siapau yma
  • Dealltwriaeth o ddadansoddiad gweadedd a dulliau synthesis am driniaeth delweddau a dadansoddiad delwedd feddygol

Mae gan y grŵp cysylltiadau cryf gyda grŵp Roboteg Deallus yr Adran, dyma un o’r grwpiau roboteg mwyaf ac enwocaf yn y DU, sydd yn cynnal ymchwil o dan yr enw “amgylcheddau digyfyngiad”, mewn cyd-destun meddalwedd a chaledwedd. Thema gyffredin i waith y grŵp yw modelau rheolaeth a gwybyddiaeth wedi’u hysbrydoli gan Fioleg. Mae gwaith ar systemau gweledigaeth roboteg yn dilyn y thema yma ynghyd â thechnegau gweledigaeth mwy traddodiadol. Mae gwaith roboteg gofodol wedi bod yn flaengar yn y prosiectau Beagle2 a chenadaethau y blaned Mawrth yn y dyfodol.