Pam dewis ni?

‌‌Dyma rai o'r rhesymau pam y ddylech chi ddewis Aberystwyth fel lle i astudio ynddo.

Croeso i’r Adran Gyfrifiadureg, yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rydym yn fwy na dim ond adran – dros amser rydym wedi creu cymuned unigryw a chlos rhwng y staff a’r myfyrwyr, sydd i gyd yn mwynhau dysgu mewn ardal â harddwch naturiol eithriadol o’i chwmpas ym mhobman.

A ninnau’n adran hirsefydlog a blaenllaw ym maes ymchwil technolegol, rydym yn ymdrin â llawer o feysydd diddorol gan gynnwys roboteg, deallusrwydd artiffisial, biowybodeg, prosesu delweddau, cyfathrebu drwy’r rhyngrwyd, a pheirianneg meddalwedd.

Mae gennym gysylltiadau cryf â chwmnïau rhyngwladol mawr ac mae’r rhan fwyaf o’n graddau’n cael eu hachredu’n broffesiynol gan y BCS (Sefydliad Siartredig TG) ar ran y Cyngor Peirianneg, a fydd yn rhoi mantais chi mewn marchnad swyddi gystadleuol.

 

Adnoddau

  • Labordai dysgu gyda gweithfannau amlgyfrwng perfformiad uchel, meddalwedd arbenigol a gweinyddwyr canolog grymus
  • Labordy Systemau Digidol o’r radd flaenaf
  • 800 o gyfrifiaduron, dros y campws a’r neuaddau preswyl, llawer ohonynt ar gael 24/7
  • Systemau Olrhain Golwg a Symud
  • Amgylcheddau Rhithwir

Darlithwyr

Mae ein staff ymhlith yr ymchwilwyr gorau yn eu meysydd ac maent yn cymryd rhan yn rheolaidd (ar y cyd â’n myfyrwyr) mewn prosiectau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae pedwar Grwp Ymchwil arbenigol, sef Rhesymegu Uwch; Biowybodeg a Bioleg Gyfrifiannol; Robotiaid Deallus; Graffeg Golwg a Delweddu, sy’n annog gwaith rhwng grwpiau i hybu gwaith ymchwil a chymhwyso ymhellach yn y meysydd hyn. Mae ein staff hefyd yn cymryd rhan mewn mentrau i estyn allan i’r gymuned, megis Cynhadledd Lovelace Menywod y BCS, ASTUTE 2020, a’n gwaith i feithrin cyswllt ag ysgolion.

Myfyrwyr

Darllenwch yr hyn sydd gan ein myfyrwyr i’w ddweud am ein cynlluniau gradd Israddedig ac Uwchraddedig.

Cyfleoedd

Cyflogadwyedd

Mae ein hadran yn cynnig ystod o gyfleoedd i wella’ch rhagolygon gyrfa, o Ffeiriau Gyrfaoedd a darlithoedd Datblygu Proffesiynol Parhaus, i Gyngor ar Yrfaoedd ac ymweliadau gan gyflogwyr.

Beth sy’n ein gosod ar wahân?

  • Dysgu sy’n trawsnewid – Prifysgol y Flwyddyn yn y DU am Ansawdd y Dysgu (Canllaw Prifysgolion Da 2018 The Times & The Sunday Times)
  • Mae’r myfyrwyr yn ganolog i bopeth a wnawn – 90% o ran bodlonrwydd myfyrwyr Cyfrifiadureg G400 (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2017)
  • Mae galw mawr am ein myfyrwyr ymhlith cyflogwyr – roedd 98% o’n graddedigion mewn gwaith neu astudiaethau pellach 6 mis ar ôl graddio, 8% yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer Cyfrifiadureg (Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch 2018)

Enghreifftiau o’n Cyrsiau

Ble mae ein graddedigion yn mynd

Proffiliau Alumni

  • Amadeus
  • GE
  • Google
  • HP
  • IBM
  • Walt Disney
  • Cyfathrebu a Rhwydweithio
  • Rhaglennu Cyfrifiadurol
  • Ymgynghori a Rheoli TG
  • Dylunio Meddalwedd
  • Dadansoddi a Datblygu Systemau
  • Datblygu ar y We