Prosiect Achyddol Bartrum
Dyfarnwyd £304,839 i Dr Bleddyn Huws, yr Athro Gruffydd Aled Williams a’r Athro Patrick Sims-Williams o Gronfa Datblygu Adnodd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) ar gyfer prosiect ymchwil newydd, creu fersiwn electronig chwiliadwy o weithiau enwog Dr Peter C. Bartrum ar yr achau Cymreig, sef Welsh Genealogies A.D. 300 – 1400 (1974, argraffiad diwygiedig 1981), a Welsh Genealogies A.D. 1400 – 1500 (1983).
Ymweliad Dr Michael Siddons
10 Mehefin 2006
Cafodd yr Adran Gymraeg y fraint o groesawu Dr Michael Siddons fel rhan o’i ymweliad ag Aberystwyth a oedd yn cyd-daro ag ymddangosiad ei gyfrol ddiweddaraf, sef cyfrol rhif IV yn y gyfres The Development of Welsh Heraldry. Dr Siddons yw Prif Herodr Cymru er 1994, ac ef yw’r arbenigwr pennaf ar achyddiaeth a herodraeth Gymreig.
Prosiect Achyddol Bartrum
01 Tachwedd 2006
Dyfarnwyd £304,839 i Dr Bleddyn Huws, yr Athro Gruffydd Aled Williams a’r Athro Patrick Sims-Williams o Gronfa Datblygu Adnodd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) ar gyfer prosiect ymchwil newydd, creu fersiwn electronig chwiliadwy o weithiau enwog Dr Peter C.