Hyder Graddedigion y Gymraeg

01 Chwefror 2009
Un arall o ganlyniadau cadarnhaol yr arolwg a gynhaliwyd yn ystod mis Chwefror 2009 yw fod yr holl fyfyrwyr a holwyd yn credu fod cymhwyster ffurfiol yn y Gymraeg yn rhoi mantais iddynt wrth gystadlu â graddedigion eraill mewn cymdeithas lle mae galw cynyddol am weithlu dwyieithog.
Canfuwyd hefyd fod 92% o'r darpar raddedigion yn dymuno aros yng Nghymru i fyw a gweithio ar ôl iddynt raddio.Pan ofynnwyd iddynt ym mha ran o Gymru y byddent yn dymuno byw a gweithio ar ôl graddio, yr oedd 41.6% ohonynt yn nodi siroedd gorllewin Cymru, naill ai yn y Gogledd neu yn y De. Dywedodd 25% o'r myfyrwyr yr hoffent aros yn y Canolbarth, a nododd 29.1% eu bod yn dymuno mynd i Gaerdydd. O blith y rheini a ddymunai fynd i Gaerdydd yr oedd 43% yn awyddus i ddychwelyd i siroedd y gorllewin (Gogledd a De) ar ôl treulio cyfnod yn y brifddinas.
Dyma gadarnhau canlyniadau'r arolygon blynyddol a wneir gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Coleg sy'n dangos fod bron y cyfan o'n graddedigion yn llwyddo i gael eu swydd gyntaf o fewn y chwe mis cyntaf ar ôl graddio, a bod y swyddi hynny yn rhai sy'n cyfateb i'w cymhwyster. Mae'n braf gweld fod gan ein darpar raddedigion gymaint o hyder yng ngwerth y cymhwyster yr ymgeisiant amdano, yn enwedig mewn cyfnod pan yw'n ymddangos y bydd y gwystadleuaeth am swyddi yn llawer ffyrnicach nag y bu.