Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2009
28 Mai 2009
Myfyriwr ymchwil yn yr Adran Gymraeg a gipiodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd. Enillodd Gruffudd Eifion Owen ganmoliaeth uchel am ei ddawn sgrifennu a’i glust fain. Mae wrthi ar hyn o bryd yn gwneud gwaith ymchwil ar yr awdur Wil Sam Jones, a dywed fod dramâu Wil Sam yn ysbrydoliaeth gyson iddo.