Ehangu cyfleoedd chwaraeon

"Diolch yn FAWR iawn i’r cyn-fyfyrwyr sy’n cefnogi Cronfa Aber! Heb eich rhoddion, ni fyddai llawer ohonom yn gallu fforddio profiadau a chyfleoedd mor wych. Diolch.”

Mae Aber wedi cynnig cyfleoedd chwaraeon newydd i Alex, myfyriwr yn IBERS a Beth, myfyriwr y Gyfraith. Daeth y ddau yn hoff iawn o Saethyddiaeth a dod yn rhan o dîm “AberArchers”.

Enillodd eu dawn a’u hymroddiad i saethyddiaeth hawl iddynt gystadlu yn y Pencampwriaethau Saethyddiaeth 3D Ewropeaidd yn Gothenburg. Gwnaeth Cronfa Aber eu taith yn bosib.

“Roedd yn brofiad anhygoel! Roedd saethu wrth ymyl, ac yn erbyn, saethyddion gorau’r byd yn rhywbeth na allwn wedi breuddwydio amdano pan gydiais mewn bwa am y tro cyntaf yn Aberystwyth”, meddai Alex.

Mae’r Pencampwriaethau wedi ei wneud yn fwy hyderus ac uchelgeisiol: “Rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau a chwrdd â llawer o saethyddion talentog iawn, sy’n golygu fy mod i bellach wedi f’ysbrydoli ac yn edrych ymlaen yn fawr at gystadleuaeth y flwyddyn nesaf!”

Mae hyder Beth hefyd wedi datblygu yn ystod y Pencampwriaethau: “Rwy’n falch o fy ngallu i ddyfalbarhau ac yn gobeithio gwella fy safle yn y blynyddoedd sydd i ddod.”

Mae Alex a Beth yn ddiolchgar iawn iddynt ddod ar draws math o chwaraeon sy’n golygu cymaint iddynt yn Aber, a bod yn ddigon ffodus i elwa o Gronfa Aber:

“Pe na bawn i wedi dod i Brifysgol Aberystwyth, mae’n amheus gen i a fyddwn i wedi cychwyn saethyddiaeth, heb sôn am gyrraedd y lefel yma”, meddai Beth, “heb Gronfa Aber dwi ddim yn credu y byddai’r twrnamaint hwn wedi bod yn bosib o gwbl. Byddaf yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth am byth.”

I gloi ein cyfweliad, mae Alex yn crynhoi eu diolch:

“Yn syml, heb gymorth Cronfa Aber ni fyddwn wedi gallu fforddio bod yn rhan o’r tîm.

Diolch yn FAWR iawn i’r cyn-fyfyrwyr sy’n cefnogi Cronfa Aber! Heb eich rhoddion, ni fyddai llawer ohonom yn gallu fforddio profiadau a chyfleoedd mor wych. Diolch.”