Cyrsiau Uwchraddedig

Manylion Pellach

 

Mae’r Adran hefyd yn cynnig gradd MPhil sy’n gwrs Meistr seiliedig ar ymchwil. O astudio amser llawn caiff y cwrs ei gwblhau mewn blwyddyn, ac mewn dwy wrth astudio rhan-amser. Mae’n rhoi cyfle i ymchwilio ar gyfer traethawd ymchwil ac ysgrifennu’r traethawd 60,000 gair hwnnw ar destun o’ch dewis chi sy’n cyd-daro â diddordebau ymchwil yr Adran. Os oes gennych ddiddordeb mewn cwrs MPhil cysylltwch â’r Adran yn uniongyrchol. Bydd cael eich derbyn i astudio’n dibynnu a oes gan yr Adran staff priodol i arolygu testun astudio cymeradwy.