Ysgoloriaethau Cyffredinol DTP ESRC Cymru

Mae Adran Daearyddiaetha Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, gyda chefnogaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC (DTP Cymru), yn gwahodd ceisiadau ar gyfer astudiaethau PhD, gyda’r posibilrwydd o ddyfarnu Ysgoloriaeth DTP ESRC a ariannir yn llawn, a fydd ar gael i gychwyn ym mis Hydref 2023.

Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr eithriadol sydd â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail uchel, neu radd Meistr briodol. Mae’r Brifysgol yn gwerthfawrogi amrywiaeth a chydraddoldeb ar bob lefel ac yn annog ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned, ni waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth ryweddol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol. Yn unol â’n hymrwymiad i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a chynyddu recriwtio gan grwpiau a dangynrychiolir, mae croeso ac anogaeth benodol i geisiadau gan ymgeiswyr Du Prydeinig, Asiaidd Prydeinig, ethnigrwydd lleiafrifol Prydeinig a hil gymysg Prydain.  Rydym yn croesawu ceisiadau i astudio’n amser llawn neu’n rhan-amser, ac mae ysgoloriaethau ar gael fel naill ai ‘1+3’ (h.y. un flwyddyn gyfan o radd Meistr hyfforddiant ymchwil ac yna astudiaeth ddoethurol amser llawn neu gymhwyster cyfatebol rhan amser) neu ‘+3’ (h.y. tair blynedd o astudiaeth ddoethurol amser llawn neu gymhwyster cyfatebol rhan amser) yn dibynnu ar anghenion yr ymgeisydd.

Dylai’r sawl sydd â diddordeb gysylltu â’r Athro Gareth Hoskins, Cyfarwyddwr Astudiaethau Uwchradd Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth drwy tgh@aber.ac.uk, neu trafod syniadau â chyfarwyddwyr  posib yn uniongyrchol.

Croesewir ceisiadau erbyn 12:00 hanner dydd, 3 Chwefror 2022.

Rhagor o fanylion am ysgoloriaethau Cyffredinol DTP ESRC Cymru

Mae’r ysgoloriaethau hyn yn ddyfarniadau ‘agored’. Dylai ymgeiswyr ystyried mynd at ddarpar oruchwyliwr cyn cyflwyno eu cais er mwyn cadarnhau bod capasiti goruchwylio priodol ar gael o fewn y Brifysgol ac er mwyn trafod eu cais drafft. Ceir gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar we-dudalennau’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear. Ceir disgrifiadau byrion o bob llwybr achrededig ar wefan DTP ESRC Cymru. Mae’n bosibl y bydd y cynullwr llwybr ar gyfer pob un o’r llwybrau yn gallu eich cynghori. Dyma nhw:

https://www.aber.ac.uk/en/dges/prospective/postgraduate/phd-opportunities/human-geography/

https://courses.aber.ac.uk/postgraduate/phd-arts-dges/

Ceir crynodebau o bob lwybr achrededig ar wefan y DTP ESRC Cymru

Yr hyn y bydd yr ysgoloriaeth yn ei gwmpasu

Bydd Dyfarniadau Ysgoloriaeth yn dechrau ym mis Hydref 2023 ac yn talu am eich ffioedd dysgu yn ogystal â chynnig grant cynhaliaeth (ar hyn o bryd £17,668 y flwyddyn ar gyfer myfyrwyr llawn amser 2022/23, a bydd y swm hwn yn cael ei ddiweddaru bob blwyddyn); ac yn cynnwys mynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil (RTSG) ychwanegol, er y gallai elfen o’r gronfa hon gael ei ‘chronni’ fel bod angen ceisiadau ar wahân o 2023 ymlaen.  Mae cyfleoedd a manteision eraill ar gael i ddeiliaid ysgoloriaeth, gan gynnwys lwfans gwaith maes tramor (os yw’n berthnasol), cyfleoedd am interniaeth, ymweliadau â sefydliadau tramor a grantiau bychain eraill. 

Pwy sy’n gymwys

Mae ysgoloriaethau ESRC yn gystadleuol iawn, a dylai ymgeiswyr feddu ar gefndir academaidd rhagorol yn y gwyddorau cymdeithasol, gyda gradd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uchel; ystyrir ymgeiswyr sy’n meddu ar radd Meistr mewn hyfforddiant ymchwil (neu gefndir cyfatebol ym maes hyfforddiant ymchwil) ar gyfer dyfarniad +3. Mae ysgoloriaethau DTP Cymru ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol.  Mae ysgoloriaethau DTP Cymru ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol (gan gynnwys yr UE a'r AEE).  Bydd pob ymgeisydd yn gymwys i gael dyfarniad llawn sy'n cynnwys cyflog cynnal a chadw a thalu ffioedd dysgu ar gyfradd sefydliad ymchwil y DU.  Rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwysedd yr ysgoloriaeth. I gael rhagor o fanylion ewch i wefan UKRI.  Bydd ymgeiswyr myfyrwyr rhyngwladol llwyddiannus yn derbyn efrydiaeth DTP Cymru a ariennir yn llawn ac ni chodir y gwahaniaeth ffioedd arnynt rhwng cyfradd y DU a chyfradd ryngwladol. 

1+3 neu +3?

Ac eithrio ysgoloriaethau ar y llwybr Economeg, mae dyfarniadau ar gael ar sail 1+3 neu +3. Mae ysgoloriaeth 1+3 yn cynnig cyllid am bedair blynedd (neu sy’n cyfateb i hynny’n rhan amser), gan gwblhau Gradd Meistr hyfforddiant ymchwil yn y flwyddyn gyntaf, ac yna 3 blynedd o gyllid ymchwil ar gyfer PhD. Mae ysgoloriaeth +3 yn darparu cyllid ar gyfer tair blynedd yr astudiaethau ymchwil PhD yn unig (neu gyfnod sy’n cyfateb i hynny’n rhan amser).

Asesu

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 12.00 hanner dydd, ddydd Gwener 3 Chwefror 2023. Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael gwahoddiad i gyfweliad, a disgwylir cynnal y cyfweliadau ddiwedd Chwefror/dechrau Mawrth 2023. Ar ôl y cyfweliad, caiff rhestr fer derfynol o ymgeiswyr ei chyflwyno i Banel a gynullir gan Grŵp Rheoli DTP ESRC Cymru i wneud penderfyniad terfynol ynghylch pwy y dylid dyfarnu ysgoloriaethau iddynt. Yn y rhan fwyaf o achosion gall ymgeiswyr llwyddiannus ddisgwyl ymateb erbyn mis Ebrill 2023.

Sut mae cyflwyno cais

Anfonwch ffurflen gais wedi’i llenwi ar gyfer eich derbyn i astudiaethau doethurol ym Mhrifysgol Aberystwyth: i’w chyflwyno i bortal ceisiadau derbyn uwchraddedigion erbyn y dyddiad cau sef 12.00 ganol dydd, 3 Chwefror 2023.

https://www.aber.ac.uk/cy/study-with-us/pg-studies/apply/

Ni dderbynnir ceisiadau anghyflawn neu rai a ddaw i law ar ôl yr amser a bennwyd.

Rhaid i’r cais gynnwys y dogfennau canlynol:

  1. Llythyr eglurhaol: Dylid ei gyfeirio at yr Athro Gary Bridge. Rhaid iddo nodi eich rhesymau a’ch ysgogiad dros wneud cais i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, a’r llwybr daearyddiaeth ddynol; eich dealltwriaeth a’ch disgwyliadau o astudiaeth ddoethurol; a’ch diddordebau academaidd yn gyffredinol, ac yn benodol y rhai sy’n berthnasol i’ch ymchwil arfaethedig. Ni ddylai’r llythyr eglurhaol fod yn hwy na dwy dudalen. Nodwch pa lwybr y byddwch yn ymgeisio amdano, yn ogystal â phu’n a ydych yn bwriadu ymgeisio ar sail +3 neu 1+3.
  2. Cymwysterau Academaidd/Proffesiynol: Lle bo hynny’n briodol, dylai hyn gynnwys tystiolaeth o Gymhwysedd Iaith Saesneg yn ogystal (gweler gofynion mynediad sefydliadol).
  3. Geirdaon: Rhaid i bob ymgeisydd gyflwyno dau eirda academaidd i gefnogi’r cais. Rhaid i ymgeiswyr fynd at ganolwyr eu hunain a chynnwys y geirdaon ynghyd â’u cais.
  4. Curriculum Vitae: Ni ddylai fod dros ddwy dudalen o hyd.
  5. Cynnig Ymchwil: Ni ddylai’r cynnig fod yn hwy na chyfanswm o 1000 o eiriau, heb gynnwys cyfeiriadau llyfryddiaeth. Awgrymwn eich bod yn defnyddio’r pum pennawd canlynol yn eich cynnig ymchwil:
    • Teitl, amcanion a phwrpas yr ymchwil;
    • Trosolwg byr o'r llenyddiaeth academaidd sy’n berthnasol i’ch maes;
    • Dyluniad/dulliau arfaethedig;
    • Cyfraniadau academaidd eich ymchwil.
    • Cyfeiriadau Llyfryddiaethol