Goruchwylio PhD

Mae’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn cynnig y safon uchaf o oruchwyliaeth PhD. Mae’r goruchwylwyr yn rhoi cyngor academaidd a threfniadol ac yn cyfarwyddo rhaglen hyfforddiant a phrosiect ymchwil y myfyriwr, yn ôl canllawiau’r Brifysgol. Y goruchwylwyr yw cyswllt cyntaf y myfyriwr yn yr Adran os oes unrhyw broblemau’n codi yn ystod y PhD.

Bydd pob myfyriwr yn cael o leiaf ddau oruchwyliwr o Brifysgol Aberystwyth, a bydd y rhain yn cyfarfod â’u myfyrwyr yn gyson. Mae’r berthynas agos sy’n datblygu rhwng y goruchwylwyr a’r myfyrwyr yn ffactor hollbwysig wrth sylweddoli mor uchel yw graddfa cwblhau doethuriaethau’r Adran.

Mae’r adran yn cymryd gofal mawr er mwyn sicrhau fod pob myfyriwr PhD yn derbyn yr oruchwyliaeth arbenigol sydd ei angen arno neu arni er mwyn cwblhau’r prosiect o fewn cyfnod arferol y cofrestriad (3-4 blynedd).

Rheolir gwaith ymchwil myfyriwr gan Brif Oruchwyliwr ac Ail Oruchwyliwr (neu mewn rhai achosion, dau Gyd-oruchwyliwr), Pwyllgor Uwchraddedig yr Adran a Bwrdd Uwchraddedig yr Athrofa.

Bydd y goruchwylwyr yn cael eu dewis unwaith i’r cais ymchwil gael ei dderbyn. Caiff y penderfyniad ei wneud ar sail:

1. Gofynion y corff sy’n cyllido’r ymchwil,
2. Arbenigedd y staff,
3. Arbenigedd ymchwil yr ymgeisydd uwchraddedig.

Yn ogystal, dylid nodi nad yw’r Adran yn caniatau i unrhyw aelod o’r staff i oruchwylio mwy na 6 myfyriwr PhD ar yr un pryd er mwyn gwneud yn siwr eu bod yn gallu rhoi’r sylw dyladwy i bob myfyriwr. Rydym yn disgwyl hefyd fod gan y Prif Oruchwyliwr brofiad mewn goruchwylio myfyrwyr PhD drwy’r broses gyfan.

Mewn achosion arbennig (megis Cymrodoriaethau CASE), penodir goruchwyliwr allanol hefyd mewn cydweithrediad â sefydliad diwydiannol neu sefydliad o fewn y gwasanaethau cyhoeddus.