Cystadleuaeth Gyffredinol Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) yr ESRC

Mae’n bleser gan yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth gynnig ysgoloriaethau YGGCC, sy’n rhoi cyllid llawn, i ddechrau ym mis Hydref 2024.

 

Y cyfnod astudio

Bydd hyd y cyfnod astudio yn dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi. Asesir hyn trwy gwblhau Dadansoddiad o Anghenion Datblygu (Cychwynnol) wrth wneud cais, ac yna Dadansoddiad Llawn o Anghenion Datblygu cyn dyfarnu os yw’r ymgeisydd yn llwyddiannus. Gall y cyfnod astudio amrywio o 3.5 i 4.5 mlynedd amser llawn (neu gyfnod cyfatebol rhan-amser).

Lleoliad Ymchwil ar Waith

Mae'n rhaid i bob myfyriwr a gyllidir gan YGGCC gwblhau lleoliad Ymchwil ar Waith o dri mis wedi'i gyllido. Bydd pob myfyriwr yn cael cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliad academaidd, polisi, busnes neu gymdeithas sifil.

Meini Prawf Mynediad

I ennill cyllid ysgoloriaeth YGGCC rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd meistr o sefydliad ymchwil academaidd yn y Deyrnas Unedig. Mae croeso i fyfyrwyr sydd o gefndiroedd academaidd anhraddodiadol wneud cais hefyd.

Gofynion iaith Saesneg

Os nad Saesneg yw iaith gyntaf ymgeiswyr, rhaid iddynt gael sgôr o 7.0 o leiaf mewn prawf IELTS (dim llai na 6.5 yn yr elfen Ysgrifennu a dim llai na 5.5 am Wrando, Siarad a Darllen).

Darllenwch ein Gofynion iaith Saesneg i gael mwy o fanylion

 

Pwy all wneud cais

Mae ysgoloriaethau YGGCC ar gael i fyfyrwyr cartref a myfyrwyr rhyngwladol. Gall hyd at 30% o'n carfan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol. Ni fydd myfyrwyr rhyngwladol yn gorfod talu'r gwahaniaeth rhwng cyfradd ffioedd y Deyrnas Unedig a’r gyfradd ryngwladol. Dylai ymgeiswyr gyflawni gofynion cymhwysedd UKRI.

Mae YGGCC wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywioldeb a chreu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob aelod o’r gymuned fyd-eang heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred, na chyfeiriadedd rhywiol. Rydym yn croesawu ceisiadau i gael astudio'n amser llawn neu’n rhan-amser.

Asesu

Hoffem atgoffa ymgeiswyr i gyflwyno'r holl ddogfennau perthnasol (trawsgrifiadau, datganiad ategol, ac ati) erbyn y dyddiad cau. Oherwydd nifer y ceisiadau a dderbynnir, ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.

Bydd ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Yn rhan o'r drefn gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau gan banel. Bydd hyn yn gyson ag ymarfer blaenorol ar y llwybr yn ystod Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru, ac sydd wedi’u llywio gan ymrwymiadau YGGCC ynglŷn â Chydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant.

Gellir cynnal cyfweliadau wyneb yn wyneb ond byddant hefyd ar gael dros Zoom/Teams i’r holl fyfyrwyr sy'n dymuno cymryd rhan yn y ffordd honno.

Gall ymgeiswyr ddisgwyl clywed canlyniad eu cyfweliad o fewn 6 wythnos.

Sut i wneud cais

Dylai’r ceisiadau ddod i law erbyn 12/01/24 fan bellaf gan gynnwys yr holl ddogfennau angenrheidiol.

Dylai pob cais gael ei gyflwyno trwy https://apply.aber.ac.uk/

Cofiwch gynnwys y dogfennau canlynol gyda'ch cais:

1) Llythyr cyflwyno (dim mwy na dwy dudalen)

Rhaid i'r llythyr gynnwys y pwyntiau bwled canlynol yn is-benawdau:

  • Nodwch eich rhesymau a'ch cymhelliant dros wneud cais i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, a'r llwybr Daearyddiaeth Ddynol.
  • Rhowch fanylion eich dealltwriaeth a'ch disgwyliadau chi ynglŷn ag astudiaeth ddoethurol.
  • Rhowch fanylion am eich diddordebau academaidd yn gyffredinol, ac yn arbennig y rhai sy'n gysylltiedig â'ch ymchwil arfaethedig.
  • Gan gyfeirio at eich cefndir eich hun (gan gynnwys eich profiadau bywyd, taith i/trwy’r

brifysgol, profiadau gwaith neu wirfoddoli) rhowch esboniad cryno yn dweud pam eich bod yn barod i ymgymryd ag ymchwil PhD nawr a sut y byddwch yn ffynnu o ganlyniad i gyllid PhD. Fe allech gynnwys, er enghraifft, heriau personol yr ydych wedi'u goresgyn neu gyflawniadau yr ydych yn falch ohonynt yn eich gwaith, eich astudiaethau neu yn eich bywyd a sut mae'r rhain yn cyd-gysylltu â’r sgiliau sydd eu hangen i ffynnu mewn rhaglen PhD. Gallai heriau gynnwys, ymhlith pethau eraill, nodweddion gwarchodedig, statws economaidd-gymdeithasol, neu bod yn ddarpar fyfyriwr cenhedlaeth gyntaf neu’n fyfyriwr â phrofiad o fod mewn gofal.

  • Gan fyfyrio ar eich cefndir a/neu ddull arfaethedig o astudio am PhD a'r cyfleoedd a ddaw yn ei sgil, sut fyddwch chi’n hyrwyddo amrywioldeb a chynhwysiant yn y gymuned PhD?

2) CV academaidd (dim mwy na dwy dudalen)

3) Cynnig ymchwil

 Dylai'r cynnig fod hyd at 1000 o eiriau, heb gynnwys cyfeiriadau llyfryddiaethol. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio'r pum pennawd canlynol yn eich cynnig ymchwil:

  • Teitl, amcanion a diben yr ymchwil;
  • Braslun cryno o'r testunau academaidd sy'n berthnasol i'ch maes;
  • Cynllun/dulliau arfaethedig;
  • Cyfraniadau academaidd eich ymchwil.
  • Cyfeiriadau Llyfryddiaethol

4) Dau eirda academaidd neu broffesiynol

Rhaid i ymgeiswyr gysylltu â chanolwyr eu hunain a chynnwys y ddau eirda gyda’u cais. Rhaid i'r geirda fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd.

5) Tystysgrifau a Thrawsgrifiadau gradd (gan gynnwys cyfieithiadau os yw hynny'n berthnasol)

6) Os yw'n berthnasol, prawf o Gymhwysedd Iaith Saesneg (gweler gofynion sefydliadol ar gyfer mynediad)

 

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth a gyllidir gan yr ESRC yn talu am ffioedd dysgu, cyflog byw blynyddol di-dreth yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£18,622 ar hyn o bryd) ac mae'n cynnwys hawl i fanteisio ar Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.

Os oes gennych anabledd, mae’n bosibl bod gennych hawl i Lwfans Myfyrwyr Anabl ar ben eich ysgoloriaeth.