Rhywbeth ychydig yn wahanol!
Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith
Mae’r Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith yn gyfle gwych i fyfyrwyr gymryd blwyddyn allan rhwng eu hail a’u trydedd flwyddyn i gael profiad gwaith cyflogedig gwerthfawr, a hynny mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu dramor. Mae nifer o leoliadau yn addas ar gyfer Daearyddiaeth, Gwyddor Daear Amgylcheddol a Gwyddor yr Amgylchedd, ac mae myfyrwyr wedi cael eu gosod mewn rhaglenni ar draws y byd, yn ogystal ag yn y Deyrnas Unedig.
Treuliodd Bridget Pitchers ei blwyddyn mewn gwaith yn SCICON - darllenwch ei stori yn rhifyn diweddaraf ein cylchlythyr
Svalbard
UNIS yw’r Ganolfan Brifysgol yn Svalbard, ac efallai y bydd myfyrwyr am fanteisio ar yr opsiwn o astudio yno. Mae treulio semester yn Svalbard yn galluogi myfyrwyr i gael profiad unigryw o astudio yn un o hinsoddau mwyaf eithafol y byd. O’r arth wen i oleuadau’r Gogledd, mae Svalbard yn cynnig profiad bythgofiadwy i fyfyrwyr.
"Rwy'n teimlo mor freintiedig o fod wedi cael mynd i amgylchedd mor unigryw ac ni fyddwn yn petruso rhag argymell IGES a phrofiad Svalbard i unrhyw fyfyriwr arall."
I ddarllen mwy am brofiadau myfyrwyr yn Svalbard, edrychwch ar rifyn 3 a 5 o’n cylchlythyr.
Rhaglen Gyfnewid Gogledd America
Mae hyn yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr gael profiad o fywyd prifysgol yn yr Unol Daleithiau. Mae cyfnewid eu cynllun gradd am bwnc tebyg yn eu hail flwyddyn yn caniatáu i fyfyrwyr gael gweld y byd o safbwynt gwahanol mewn Prifysgol yng Ngogledd America. Gall myfyrwyr ddewis o'r graddau a gynigir gan Washington State, Kansas, Montana, Penn State a Pittsburgh.
Gwobrau Teithio
Fel myfyriwr yn sefydliad IGES byddwch yn gymwys i wneud cais am wobrau Teithio Gareth Thomas ac Elwyn Davies. Sefydlwyd y rhain gan gyn-ddarlithwyr er mwyn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr yr adran deithio'r byd. Bob blwyddyn caiff 13 o fyfyrwyr hyd at £400 i’w helpu i archwilio’r byd o'u cwmpas. Mae cyrchfannau yn y blynyddoedd diwethaf wedi cynnwys: Beijing, Madagascar, Periw, Mount Etna a'r Unol Daleithiau.
I weld lle mae gwobrau teithio wedi mynd â’n myfyrwyr yn y gorffennol, edrychwch ar gylchlythyrau IGES.