Prof Neil Glasser

Prof Neil Glasser

Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Gwyddorau Daear a Bywyd

Manylion Cyswllt

Noder: Mae gwybodaeth ychwanegol neu manylach ar y fersiwn Saesneg o'r proffil hwn.

Proffil

 

Yr Athro Neil Glasser 
 Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Gwyddorau Daear a Bywyd

 

Ymunodd Neil Glasser â Phrifysgol Aberystwyth ym mis Ebrill 1999, fel Darlithydd mewn Daearyddiaeth Ffisegol, a chafodd ei ddyrchafu'n Uwchddarlithydd yn 2002, Darllenydd yn 2004 ac Athro yn 2006. Yn 2006-2007 roedd yn Ysgolhaig Nodedig Fulbright yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Data Eira ac Iâ yn Boulder, Colorado. Mae wedi bod yn aelod o Goleg Adolygiadau Cyd-academyddion Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) ddwywaith (2005-2008 a 2011 hyd heddiw) ac roedd yn aelod o Bwyllgor Llywio Cyfleuster Dadansoddi Isotopau Cosmogenig y Cyngor Ymchwil (2007-2013). Mae Neil hefyd yn olygydd ar y Journal of Glaciology ac ef yw Golygydd Sefydlol Quaternary Sciences Advances

 

Mae ei grantiau a’i bapurau ymchwil diweddaraf yn cynnwys cyfraniadau ar ddefnyddio tirffurfiau erydol rhewlifol i ail-greu cyn lenni iâ, sut mae rhewlifeg strwythurol yn cyfrannu at gludo a dyddodi gweddillion a datblygu tirffurfiau, ymateb rhewlifoedd sydd wedi'u gorchuddio â gweddillion i newid yn yr hinsawdd, a hanes rhewlifol hirdymor Antarctica. Mae'n gweithio ar hyn o bryd ar setiau data mawr sy'n ymwneud ag ymateb Llen Iâ'r Antarctig i newid yn yr hinsawdd, llifogydd yn sgil rhewlifeiriannau yn yr Himalaya ac argaeledd dŵr yn y dyfodol, a microbioleg masau iâ'r Arctig.  

 

Ar hyn o bryd mae'n Ddirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Gwyddorau Daear a Bywyd, sy'n cynnwys tair Adran Academaidd fawr (Gwyddorau Bywyd, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, a Seicoleg) yn ogystal â Sefydliad Ymchwil mawr (IBERS). Mae'n gyfrifol ar lefel Gweithrediaeth y Brifysgol am Gydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant, a'r Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

Grwpiau Ymchwil

Cyhoeddiadau

Wolff, IW, Glasser, NF, Harrison, S, Wood, JL & Hubbard, A 2023, 'A steady-state model reconstruction of the patagonian ice sheet during the last glacial maximum', Quaternary Science Advances , vol. 12, 100103. 10.1016/j.qsa.2023.100103
Andersen, JL, Newall, JC, Fredin, O, Glasser, NF, Lifton, NA, Stuart, FM, Fabel, D, Caffee, M, Pedersen, VK, Koester, AJ, Suganuma, Y, Harbor, JM & Stroeven, AP 2023, 'A topographic hinge-zone divides coastal and inland ice dynamic regimes in East Antarctica', Communications Earth and Environment, vol. 4, no. 1, 9. 10.1038/s43247-022-00673-6, 10.5281/zenodo.7422400
Davies, B, Bendle, J, Glasser, N, García, JL & Kaplan, M 2023, 'Glaciation and climate change in the Andean Cordillera', Frontiers in Earth Science, vol. 11, 1129795. 10.3389/feart.2023.1129795
Peacey, MW, Reynolds, JM, Holt, TO & Glasser, NF 2023, 'Glacier structure influence on Himalayan ice-front morphology', Earth Surface Processes and Landforms, vol. 48, no. 9, pp. 1679-1700. 10.1002/esp.5576
Hughes, PD, Clark, CD, Gibbard, PL, Glasser, NF & Tomkins, MD 2022, Britain and Ireland: Glacial landforms during deglaciation. in D Palacios, PD Hughes, JM Garcia-Ruiz & ND Andrés (eds), European Glacial Landscapes: The Last Deglaciation. Elsevier, pp. 129-139. 10.1016/B978-0-323-91899-2.00027-9
Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil