Dathlu ein hamrywioldeb - Proffiliau Staff
Amy Daniel
Ni fu fy rhywioldeb erioed yn rhwystr wrth weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn y gorffennol, mewn gweithleoedd eraill, roeddwn wastad yn ceisio osgoi dweud wrth fy nghydweithwyr fy mod yn hoyw, gan ddefnyddio ymadroddion fel ‘fy mhartner’ a defnyddio’r rhagenw niwtral ‘nhw’. Ar ôl cyfnod byr yn gweithio yn Aberystwyth, roeddwn yn teimlo fy mod yn perthyn, ac o'r diwedd, roeddwn i'n teimlo'n gyfforddus i fod yn onest am fy rhywioldeb. Credaf mai’r rheswm am hyn yw bod cydweithwyr eraill yn fy adran yn agored am eu rhywioldeb; roeddent yn fodelau rôl gwych ac yn gwneud i mi deimlo nad oedd gen i unrhyw reswm dros beidio â bod yn fi fy hun. Byddwn yn annog pawb i fod yn nhw eu hunain, ac os nad ydych wedi bod yn agored am eich rhywioldeb, ceisiwch wneud hynny. Mae’n rhyddhad mawr, ac mae yna gymuned wych i fod yn rhan ohoni drwy'r rhwydwaith LHDT.'
Samantha Vallin
Rwy’n teimlo’n lwcus iawn i weithio lle rwy’n gweithio, gan fy mod yn cael cefnogaeth gan fy adran, fy nghydweithwyr a’r brifysgol gyfan. Nid yw bod yn fenyw ifanc hoyw erioed wedi effeithio ar fy ngwaith. Rwy'n aelod gweithgar o'r grŵp rhwydwaith LHDT, ac mewn gwirionedd, wnes i gwrdd â’m gwraig yn y digwyddiad cyntaf i mi ei fynychu, felly ni allaf hyrwyddo digwyddiadau’r rhwydwaith LHDT ddigon! Mae’r rhwydwaith LHDT wedi gwneud i mi deimlo’n rhan o gymuned gref y gwn ei bod yno pan fo ei hangen. Rwyf hefyd wedi meithrin cysylltiadau gyda chydweithwyr gwych ar draws y brifysgol, ac mae hynny wedi cyfrannu’n sylweddol at ddatblygiad fy ngyrfa. Rwyf wastad wedi teimlo'n gyfforddus i fod yn fi fy hun yn y gwaith. Rwy'n credu bod presenoldeb cryf y rhwydwaith a'r gymuned LHDT yn helpu gyda hyn.
Megan Talbot
‘Dydw i ddim yn meddwl bod bod yn drawsrywiol yn arbennig o hawdd yn unrhyw le. Mae trawsffobia yn dal i fodoli, nid yn unig ymysg unigolion, ond o fewn systemau yn y gymdeithas a hyd yn oed mewn deddfau. Ond gall y bobl o’ch cwmpas wneud byd o wahaniaeth. Yn Aberystwyth rwyf wedi bod yn ffodus iawn o gael llawer o ffrindiau a chydweithwyr sydd nid yn unig wedi bod yn gefnogol, ond hefyd yn bleser bod gyda nhw. Er bod problemau’n dal i godi o bryd i’w gilydd, pan ddaw sylw anwybodus gan unigolyn, mae’r farn honno naill ai’n un leiafrifol iawn, neu’n newid unwaith y bydd yr unigolyn yn dysgu mwy. Daw myfyrwyr a staff yma o bob math o gefndiroedd, felly i ryw raddau mae rhai o'r problemau hyn yn anochel, ond yn gyffredinol mae pobl yn tueddu i ddysgu dros amser a dod yn fwy goddefgar. Rwyf hefyd wedi bod yn ffodus, pan fo problemau o natur systemig yn codi, bod pobl yn barod i ystyried y materion hynny a gweithredu i’w datrys. Mae Aberystwyth, yn yr un modd â llawer o lefydd ar hyn o bryd, mewn cyfnod o wella o ran cynhwysiant traws, ond rydym yn ffodus bod gennym bobl sy’n teimlo’n angerddol dros wella pethau.'
Bob McIntyre
‘O’m profiad i, mae Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn arbennig o groesawgar. Dydw i erioed wedi teimlo’n anghyfforddus na theimlo bod rhaid i mi gyfyngu fy hun i fod yn unrhyw beth heblaw pwy ydw i. Gallaf siarad yn agored am fy mywyd heb unrhyw feirniadaeth. Rwy'n rhan o'r rhwydwaith LHDT ac yn gwybod am yr holl ddulliau sydd ar waith i riportio unrhyw broblemau, ond dydw i erioed wedi gorfod gwneud hynny. Rwyf hefyd wedi gallu mynychu hyfforddiant Stonewall a ddarparwyd gan y Brifysgol, a roddodd yr hyder i mi nid yn unig fod yn falch o bwy ydw i, ond cefnogi eraill hefyd.'
Adnoddau ar gyfer pobl LHDT
Mae’r canllaw ‘Safe to be me’ yn cynnig cyngor ymarferol ar ddarparu’r math o wasanaethau lle gall pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsrywiol (LHDT) hŷn deimlo'n ddiogel i fod yn nhw eu hunain.
Ysgrifennwyd yr adnodd ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio neu'n gwirfoddoli ym maes iechyd, gofal cymdeithasol neu'r sector gwirfoddol a hoffai gefnogi pobl LHDT hŷn. Bydd hefyd yn ddefnyddiol i ddarparwyr hyfforddiant sicrhau bod trafodaethau a senarios sy'n ymwneud ag anghenion pobl LHDT yn cael eu hintegreiddio mewn cyrsiau.
