Cyfeillion Enfys Aber

Diolch am wneud ymdrech amlwg i wneud Prifysgol Aberystwyth yn weithle cyfeillgar i Bobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol (LHDT). Os hoffech ymuno â rhwydwaith y cyfeillion, a fyddech cystal ag anfon e-bost at Dylan  Jones, Cydlynydd Rhwydwaith LHDT ar dej20@aber.ac.uk 

Beth yw cyfaill?

Gall cyfaill strêt fod yn rhywun sy’n cefnogi ac yn derbyn yr unigolyn LHDT, neu gall cyfaill strêt fod yn rhywun sy’n eirioli’n bersonol dros hawliau cyfartal a thriniaeth deg.

Mae cyfeillion ymhlith lleisiau mwyaf effeithiol a grymus y mudiad LHDT. Mae cyfeillion yn helpu pobl yn ystod y broses o ddatgelu eu rhywioldeb, yn ogystal â deall pwysigrwydd cydraddoldeb, tegwch, derbyniad a pharch o’r ddwy ochr.

Camau ar gyfer bod yn gyfeillion effeithiol:

  • Byddwch yn barod i wrando.
  • Byddwch yn agored eich meddwl.
  • Byddwch yn barod i siarad.
  • Peidiwch â chymryd yn ganiataol fod pob un o’ch ffrindiau a’ch cydweithwyr yn strêt. Gall rhywun sy’n agos atoch fod yn chwilio am gefnogaeth yn ystod y broses o ddatgelu ei rywioldeb. Bydd peidio â gwneud unrhyw ragdybiaethau yn rhoi lle iddynt wneud hynny.
  • Mae sylwadau gwrth-LHDT yn niweidiol. Rhowch wybod i’ch ffrindiau, teulu a chydweithwyr eu bod yn eich tramgwyddo.
  • Wynebwch eich rhagfarnau eich hun, hyd yn oed os ydych yn teimlo’n anghyfforddus wrth wneud hynny.
  • Amddiffynwch eich ffrindiau LHDT rhag gwahaniaethu.
  • Credwch y dylai pawb, beth bynnag eu hunaniaeth o ran rhywedd a’u cyfeiriadedd rhywiol, gael eu trin ag urddas a pharch.

Gwahaniaethu yn erbyn Pobl LHDT:

Gwahaniaethu uniongyrchol 

Dyma sy’n digwydd os bydd rhywun yn eich trin yn waeth nag unigolyn arall mewn sefyllfa debyg oherwydd eich cyfeiriadedd rhywiol.

  • Er enghraifft, mewn cyfweliad am swydd, mae menyw yn cyfeirio at ei chariad sy’n fenyw. Mae’r cyflogwr yn penderfynu peidio â chynnig y swydd iddi, er mai hi yw’r ymgeisydd gorau a gafodd gyfweliad.
  • Er enghraifft, mae perchennog gwesty yn gwrthod darparu ystafell ddwbl i ddau ddyn. 

Gwahaniaethu anuniongyrchol

Bydd gwahaniaethu anuniongyrchol yn digwydd os oes gan eich sefydliad bolisi neu ffordd benodol o weithio sy’n berthnasol i bawb ond sy’n gosod pobl o’ch cyfeiriadedd rhywiol chithau dan anfantais. 

Gellir caniatáu gwahaniaethu anuniongyrchol os gall y sefydliad neu’r cyflogwr ddangos bod rheswm da dros y polisi. Gelwir hyn yn gyfiawnhad gwrthrychol.

Aflonyddu

Bydd aflonyddu yn y gweithle yn digwydd os bydd rhywun yn gwneud ichi deimlo cywilydd, yn ddig neu’n ddiraddiedig.

  • Er enghraifft, mae cydweithwyr yn parhau i alw gweithiwr gwrywaidd wrth y fersiwn benywaidd o’i enw er iddo ofyn iddynt ddefnyddio ei enw cywir. Yn ôl ei gydweithwyr, tynnu coes yn unig yw hyn ond mae’r gweithiwr yn cymryd ato ac yn ddig o’r herwydd.

Ni ellir cyfiawnhau aflonyddu ar unrhyw gyfrif. Fodd bynnag, os gall sefydliad neu gyflogwr ddangos iddynt wneud popeth o fewn i’w gallu i rwystro pobl sy’n gweithio iddynt rhag ymddwyn felly, ni fyddwch yn gallu hawlio aflonyddu, er y gallech hawlio iawndal gan y sawl a fu’n aflonyddu.

Y tu allan i’r gweithle, os ydych yn cael eich aflonyddu neu’n cael eich trin yn annymunol oherwydd eich cyfeiriadedd rhywiol, gall hynny fod yn wahaniaethu anuniongyrchol.

Erledigaeth

Dyma sy’n digwydd os cewch eich trin yn wael oherwydd ichi wneud cwyn o wahaniaethu sy’n gysylltiedig â chyfeiriadedd rhywiol o dan y Ddeddf Gydraddoldeb. A gall ddigwydd hefyd os ydych yn cefnogi rhywun sydd wedi gwneud cwyn o wahaniaethu sy’n gysylltiedig â chyfeiriadedd rhywiol o dan y Ddeddf.

  • Er enghraifft, mae gweithiwr hoyw yn cwyno bod ei reolwr wedi datgelu ei rywioldeb yn erbyn ei ddymuniadau ac mae ei gyflogwr yn ei ddiswyddo.

Adnoddau i ganfod mwy:

https://www.stonewall.org.uk/sites/default/files/straight_allies.pdf

Mentoriaid

Annwyl Gydweithiwr,

O fewn y Rhwydwaith Cyfeillion mae  yna unigolion sydd wedi rhoi eu hunan ymlaen i fod yn Fentor.  Mae’r mentoriaid yma ar gael fel man cyswllt agored ar gyfer staff Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol i gysylltu o safbwynt gwahanol.  Bydd Mentoriaid ar gael i wrando a darparu cefnogaeth un i un fel bo angen. 

  • Jonny Davies – Cynorthwyydd Gweithrediadau Academaidd, Athrofa’r Celfyddydau a’r Dyniaethau – jhd11@aber.ac.uk
  • Helen Mai Davies – Cynorthwyydd Adnoddau Dynol (Systemau) – hmd7@aber.ac.uk
  • Catherine O’Hanlon – Cadeirydd y Bwrdd Arholi, Adran Seicoleg – cao15@aber.ac.uk
  • Gary Reed – Cyfarwyddwr Busnes ac Arloesi Ymchwil – gar@aber.ac.uk
  • Rebecca Kularatne – Rheolwr Cynllunio Metrics a Gweithlu Adnoddau Dynol – rlk@aber.ac.uk

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r cynllun mentora, cysylltwch â Ruth Fowler ar ruf@aber.ac.uk